Mi welaf oleu wawr, Ar dywyll nos fy myd; Mae'r hen addewid fawr Yn dal yr un o hyd; Ymlawenhaf, bererin gwyw, Yn annherfynnol nerth fy Nuw. Fy llwybrau sydd yn llawn Gelynion o bob tu; A'r creigiau'n, uchel iawn, Uwchben y dyfnder du; Mae bryniau uwch yn codi draw, O! Dduw'r Addewid, moes Dy law. Bu'r Iesu o fy mlaen Yn dringo'r creigiau hyn; A lliwiodd lawer maen, A gwaed Ei fywyd gwyn; Mi ddringaf innau 'tua'r nef, Yng ngrym Ei fuddugoliaeth Ef. Ymaflaf yn Ei nerth Yn wyneb arfog fyd; Ac ar y rhiwiau serth, I fyny'r af o hyd; Mewn annhawsterau fwy na rhi, Mae nerth fy Nuw yn blaid i mi.Evan Rees (Dyfed) 1850-1923 [Mesur: 666688] |
I see the light of dawn, On the dark night of my world; The great old promise is Holding the same always; I will rejoice, a wizened pilgrim, In the boundless strength of my God. My paths are full Of enemies on every side; And the rocks, very high, Above the black deep; The higher hills are rising yonder, O God of the Promise, give Thy hand! Jesus was before me Climbing these rocks; And many a stone he coloured, With the blood of His blessed life; I too shall climb towards heaven, In the force of His victory. I shall wrestle in His strength In the face of an armed world; And on the steep hills, Up I shall go always; In difficulties greater than number, The strength of my God is on my side.tr. 2016 Richard B Gillion |
|