Mi wn i Grist, mi wn Fy ngharu cyn bod byd, Parhau fy ngharu gwn y gwna, Yn ddidrai yr un o hyd; Fe yw'm Tywysog hardd, Efe yw'r Meddyg mawr, Efe yw'm Harchoffeiriad gwych, Sydd troswy'n pledio'n awr. Fy Mrawd yw'r Iesu da, Fy Mherl o uchel bris, Fy Nghyfaill yw a'm Cariad mwyn, Fy Ngobaith yn ddilys; Fy Mhren y Bywyd mawr, Fy Nrŵs i fyn'd at Dduw, Fy Ffordd i fyned tu a'r wlad Lle mae fy Nhad yn byw. Fy Rhosyn Saron gwych, Yw'r hyfryd Iesu mwyn, Fy Mugail yw, a mi sydd un O'i dirion anwyl ŵyn: Fy Mhrynwr yw heb lai, Fy Mhriod yn ddi-gêl, Fy Nharian gref a'm 'Fforddwr da, Fy sicr Ran a'm Sêl. Omega, Alpha mawr, A'm Hawl yw'r anwyl Grist, Efe yw'm Hamddiffynfa lon, Efe yw'm Ffyddlon Dyst: Fy Mhen, fy Nghorn, a'm Tŵr, Fy euraidd Allor lân, Fy Aberth drud a'm Prophwyd mawr, Fe'm tywys yn y blaen. Fe'm portha i â'i ras, Nes myn'd i ben fy nhaith, Fe ladd fy holl elynion câs, Câf gonc'ro uffern faith: Fy Arch a'm Hysgol yw I'm codi tu a'r nen, Câf ddringo 'mlaen o nerth i nerth, Nes dod i Sïon wen.William Williams 1717-91
Tonau [MBD 6686D]: gwelir: Dy glwyfau yw fy rhan |
I know that Christ, I know, Loved me before the world was, He will continue to love me I know he will, Unebbingly the same always; He is my beautiful Prince He is the great Physician, He is my brilliant High Priest, Who for me is pleading now. My Brother is the good Jesus, My Pearl of high price, My Friend he is and my gentle Love, My Hope unfailingly; My great Tree of Life, My Door to go to God, My was to go towards the land Where my Father is living. My brilliant Rose of Sharon, Is the delightful, gentle Jesus, My Shepherd he is, and I am one Of his tender, beloved lambs: My Redeemer he is no less, My Spouse unconcealed, My strong Shield and my good Guide, My sure Portion and my Seal. Omega, great Alpha, And my Right is the beloved Christ, He is my cheerful Stronghold, He is my Faithful Witness: My Head, my Horn, and my Tower, My holy, golden Altar, My costly Sacrifice and my great Prophet, He will lead me forward. He feeds me with his grace, Until going to the end of my journey, He slays all my detestable enemies, I may conquer vast hell: My Ark and my Ladder he is To raise me towards the sky, I may climb onward from strength to strength, Until coming to blessed Zion.tr. 2016 Richard B Gillion |
|