Mil henffych foreddydd gogoned

1,2,3,4,5;  1,2,4,6.
(Dydd Pasg - "Yr Iesu a gyfododd Duw i fynu" - Act. ii. 32.)
Mil henffych, foreddydd gogoned,
  Mae'n hoff gennym weled dy wedd,
Y dydd y daeth corff ein Hanwylyd
  Heb lygriad i'r bywyd
      o'r bedd;
Gogoniant holl fywyd
    y Cristion,
  A'i goron, ddydd tirion, wyt ti;
Mae'th lewyrch yn troi, mewn llawenydd,
  Pob Sul yn Basg newydd i ni.

Cyweiria, fy nhelyn, i'm Ceidwad
  Dy ganiad ar dorriad y dydd;
Deffroed yn foreuach dy dannau
  Na'r hedydd boreol, mewn ffydd;
Prif destun melusaf y nefoedd
  Sydd heddyw yn gwahodd dy gân;
Ennyned y testun bendigaid
  Dy awen drwy d'enaid yn dân.

O'r ymdrech mewn llawn fuddugoliaeth
  Daeth heddyw ein Pennaeth heb ball;
Ysigodd ben Satan ein gelyn,
  A maeddodd holl fyddin y fall;
Aeth Iesu yn angau i angau,
  Gorchfygodd ei boenau a'r bedd;
Gorphenwyd y rhyfel dros Sïon,
  Mae heddyw yn hinon o hedd.

Pa'm bellach yr ofnaf farwolaeth?
  Pa'm bellach yr ofnaf y bedd?
Cyssegrodd yr Iesu'n tŷ olaf,
  Yn hwnnw mi hunaf mewn hedd:
Ryw fore, fel f'Arglwydd a'm Ceidwad,
  Caf finnau gyfodiad i fyw
Mewn tŷ o adeilad ysprydol
  Trag'wyddol a nefol fy Nuw.

Wedi codiad yr
    haulwen i'r entrych,
  Adlewyrch o'i
      lewyrch â i lawr,
Argreffir ei ddelw hyfrydlon
  Ym môr ac yn afon yn awr;
Fel hyn mae cyfodiad ein Prynydd
  I ddyfroedd y Bedydd heb wâd,
Ei effaith a'u gwna hwy'n rhinweddoi,
  Trwy ffydd, er achubol iachâd.

I'r Drindod fendigaid ein moliant
  A rown, a gogoniant ar gân,
I'r Tad, ac i'r
    Mab rhad tragwyddol,
  I'r Ysbryd Sancteiddiol a Glân;
Fel cynt cyn rhoi
    sylfaen y bydoedd,
  O'r dechrau yr oedd, ac mae'n awr,
Y bydd ein pêr fawl yn oes oesoedd
  Yn seinio trwy nefoedd a llawr.
holl fywyd :: holl flwyddyn
hedydd boreol :: 'hedydd hoff enau

Morris Williams (Nicander) 1809-74
Blwyddyn Eglwysig
1-5: Yr Haul (Cyfrol III, rhif. 28 - Ebrill 1852)
  6 : Emynau Hen a Newydd 1962

Tôn [9898D]: Elliot (John Ellis 1760-1839)

(Easter Day - "God has raised Jesus up" - Acts 2:32)
Hail a thousand times, glorious morning,
  It is delightful for us to see thy face,
The day the body of our Beloved came
  Without corruption to life
      from the grave;
The glory of the whole life
    of the Christian,
  And his crown, tender day, art thou;
Thy radiance is turning, in rejoicing,
  Every Sunday into a new Easter for us.

Tune up, my harp, for my Saviour
  Thy song at the break of day;
May thy strings awaken earlier
  Than the lark of the morn, in faith;
The sweetest chief theme of heaven
  Is today welcoming thy song;
May the blessed theme kindle
  Thy muse through thy soul into a fire.

From the struggle in full victory
 Came today our Chief without failure;
He bruised the head of Satan our enemy,
  And beat all the army of the evil one;
Jesus became death to death,
  He overcame its pains and the grave;
The battle was finished for Zion,
  Today is a sunshine of peace.

Why henceforth shall I fear mortality?
  Why henceforth shall I fear the grave?
Jesus consecrated our last house,
  In that I shall sleep in peace:
Some morn, like my Lord and my Saviour,
  I also shall get a resurrection to live
In the house of a spiritual, eternal
  And heavenly building of my God.

After the rising of the
    bright sun to the vault,
  The reflection of his
      radiance shall go down,
His delightful image is to be impressed
  In sea and in river now;
Thus is the resurrection of our Redeemer
  To the waters of baptism without denial,
His effect shall imbue them with wonder,
  Through faith, for saving health.

To the blessed Trinity our praise
  Let us give, and glory in song,
To the Father, and to the
    gracious, eternal Son,
  To to Sacred and Holy Spirit;
As of old before the setting
    of the foundation of the worlds,
  From the beginning it was, and is now,
Our sweet praise shall be forever and ever
  Sounding throughout heaven and earth.
whole life:: whole year
lark of the morn :: lark of delightful mouth

tr. 2016 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~