Moliannaf Di, fy Nuw, Mewn gorfoleddus ddawn, A fod i'r euog dua'i liw Ddihangfa yn yr Iawn; Daw gras y nefoedd wen I lonni'm henaid trist, Os caf ond rhoddi pwys fy mhen Ar fynwes Iesu Grist. Yng ngwlad y cystudd mawr Gofchfygodd wrtho'i Hun; A ffordd y bywyd sydd yn awr Yn rhydd i euog ddyn; Fe sathrodd dan Ei draed Elynion fwy na rhi; A phrynodd, drwy Ei briod waed, Y nef yn ôl i mi. Gorffennwyd ar y bryn Achubol drefn y nef, A thorrodd dydd tragwyddol wyn Ar nos Ei angau Ef; Arfaethau dwyfol ras Eglurwyd ynddo'n llawn, A'r euog sydd yn profi blas Maddeuant yn yr Iawn. Er garwed yw fy myd, Er dyfned yw fy loes, Mae'r holl ofidiau'n troi o hyd Yn wynfyd wrth y groes; Mi gerddaf tua'r nef Ar ôl fy Iesu glân, A chanaf glod Ei enw Ef Ynghanol dŵr a thân.Evan Rees (Dyfed) 1850-1923 [Mesur: MBD 6686D] |
I will praise Thee, my God, In a jubilant gift, Which is to the guilty of blackest colour An escape in the Atonement; May the grace of the bright heaven come To cheer my sad soul, If I can get but to lean my head On the breast of Jesus Christ. In the land of the great tribulation He overcame by Himself; And the way of life is now Available to guilty man; He trampled under His feet Enemies more than number; And bought, through His own blood, Heaven back for me. Finished on the hill was The saving plan of heaven, And the eternal, bright day broke On the night of His death; The weapons of divine grace Were made clear in him fully, And the guilty is experiencing a taste Of forgiveness in the Atonement. Despite how rough is my world, Despite how deep is my anguish, All the griefs are turning always Into blessedness by the cross; I will walk towards heaven, And I will sing the acclaim of His name In the midst of water and fire.tr. 2016 Richard B Gillion |
|