Molwch chwi Dduw y duwiau'n rhwydd (Ac Arglwydd yr arglwyddi)

(Salm CXXXVI)
Molwch chwi Dduw y duwiau'n rhwydd,
  Ac Arglwydd yr arglwyddi;
Hwn unig a wnaeth wyrthiau mawr:
  Trwy ei ddirfawr ddaioni.

Dug Isräel i'r lan yn wych,
  Mewn hyfryd ddrych gorfoledd;
Ysgytiodd'y gelynol lu,
  A hyn fu o'i drugaredd.

Yn ein hiselradd cofiodd ni,
  O'i fawr ddaioni tirion;
Ac a'n hachubodd yn ddiswrth
  Oddiwrth ein holl elynion.

Yr hwn a ymbyrth bob rhyw gnawd,
  Yn ddidlawd o'i drugaredd;
Clodforwch Arglwydd Dduw y nef,
  Rhowch iddo ef ogonedd.
Edmwnd Prys 1544-1623

[Mesur: MS 8787]

gwelir: Molwch yr Arglwydd can's da yw
    (Moliennwch Dduw y llywydd)

(Psalm 136)
Praise ye the God of gods readily,
  And the Lord of lords;
He alone has done great wonders:
  Through his enormous goodness.

He led Israel up wonderfully,
  In a delightful condition of jubilation;
He shook the enemy host,
  And this was from his mercy.

In our low estate he remembered us,
  Of his great, tender goodness;
And he saved us speedily
  From all our enemies.

It is he who feeds every kind of flesh,
  Unstintingly from his mercy;
Extol ye the Lord God of heaven,
  Give glory unto him.
tr. 2017 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~