Molwn Di, ein Harglwdd tyner, Am Sant Pedr, d'apostol gwiw; Ei fawr wendid a'i fawr gryfder Rhybydd ac esiampl yw; Dysgu wnelom Wersi'i fuchedd drwy ein hoes. Dy gyffesu'n gyhoedd, eon, Fel efe a wnelom ni - Dweud mewn ffydd, o eigion calon, Mai y Crist, Mab Duw wyt Ti, Fel y byddo Iti'n harddel ddydd a ddaw. Ti roist iddo enw newydd, Addas i ymladdwr cry'; Rhoist i ninnau enw bedydd Pan dderbyniwyd ni i'th Dŷ; Ymladd wnelom Dan dy faner drwy ein hoes. Teirgwaith Ti genhedaist iddo Borthi'r defaid, porthi'r ŵyn; Yntau'n ddyfol, wrol, effro, Fu'n eu porthi er dy fwyn. Dyro eto Ffyddlon wŷr i'n porthi ni. Yn dy nerth, hyd farw, glynodd Wrth y genadwri gu, Drosti'i waed o' fodd dywalltodd - Marw'r merthyr iddo fu; Nertha ninnau I roi'n bywyd oll i Ti.Thomas Edwards (Gwynedd) 1844-1924
Tôn [878747]: Alleluia Dulce Carmen / Benediction |
We praise Thee, our tender Lord, For Saint Peter, thy worthy apostle; His great weakness and his great strength A warning and an example are; That we learn The lessons of his conduct throughout our life. Confessing Thee publicly, fearlessly, Like he that we do - Saying in faith, from depths of heart, That the Christ, the Son of God art Thou, That thou mayest Own us on the coming day. Thou gavest him a new name, Appropriate for a strong fighter; Thou gavest to us too a baptismal name When we were received into thy House; That we may fight Under thy banner throughout our life. Three times Thou commissioned him To feed the sheep, to feed the lambs; He devoted, brave, alert, Fed them for thy sake. May there come again Faithful men to feed us. In thy strength, unto death, he stuck To the dear mission, For thee his blood voluntarily he shed - The death of a martyr he had; Strengthen us too To give all our life to Thee.tr. 2016 Richard B Gillion |
|