Molwn di, O Dduw ein tadau, Uchel ŵyl o foliant yw; Awn i mewn i'th byrth â diolch Ac offrymwn ebyrth byw; Cofiwn waith dy ddwylo arnom A'th amddiffyn dros ein gwlad; Tithau, o'th breswylfa sanctaidd, Gwêl a derbyn ein mawrhad. Ti â chariad Tad a'n ceraist Yn yr oesoedd bore draw, O dywyllwch i oleuni Fe'n tywysaist yn dy law; Cawsom di ymhob cenhedlaeth Fel dy enw'n gadarn Iôr, Cysgod gwell na'r bryniau uchel Ac na chedyrn donnau'r môr. Cudd ni eto dan dy adain A bydd inni'n fur o dân, Tywys di ein tywysogion Megis gynt â'th Ysbryd Glân; Pâr i'n cenedl annwyl rodio Yn dy ofn o oes i oes Gyda'i ffydd yng ngair y cymod, Gyda'i hymffrost yn y groes.Eliseus Williams (Eifion Wyn) 1876-1926 Y Goleuad (Chwefror 1921)
Tonau [8787D]: |
We praise thee, O God of our fathers, Loud is the cry of praise; We go inside thy gates with thanks And offer living sacrifices; We remember the work of thy hands for us And thy defence across our land; Thou, from thy holy residence, See and accept our exaltation. Thou with a Father's love didst love us In the ages of the distant morning, From darkness to light Thou didst lead us in thy hand; We had thee in every generation Like thy name as a strong Lord, A shelter better than the high hills And than the mighty waves of the sea. Hide us still under thy wing And it will be to us as a wall of fire, Lead thou our leaders Like wind with thy Holy Spirit; Prepare our dear generation to walk In thy fear from age to age With its faith in the word of reconciliation, With its boast in the cross.tr. 2008 Richard B Gillion |
|