Mor ddedwydd yw y rhai trwy ffydd

1,2,3,(4).
(Gorffwys yn y Bedd)
Mor ddedwydd yw y rhai, trwy ffydd
  Sy'n myn'd o blith y byw;
Eu henwau'n perarogli sydd
  A'u hun mor dawel yw!

Ar ôl eu holl flinderau dwys
  Gorffwyso maent mewn hedd,
Ymhell o sŵn
    y byd a'i bwys,
  Heb boen yn llwch y bedd.

Llais un gorthrymydd
    byth ni ddaw
  I'w deffro i ŵylaw mwy,
Na phrofedigaeth lem, na chroes -
  Un loes ni theimlant hwy.

Maent wedi dianc uwch pob clyw',
  I wlad y gān a'r wledd,
I nef y nef, i foli mwy
  Dan wenau Duw a'i hedd.
yn llwch y bedd :: uwchlaw i'r bedd

Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) 1795-1873

Tonau [CM 8686]:
    Abergele (J A Lloyd 1815-74)
    Abridge (Isaac Smith 1735-1800)
    Belgrave (William Horsley 1774-1858)
    Belmont (William Gardiner 1769-1853)
    Bishopthorpe (Jeremiah Clarke c.1673-1707)
    Gerontius (John B Dykes 1823-76)
    Hiraethlyn (Owen Williams 1877-1956)
    St Agnes (John B Dykes 1823-76)

(Rest in the Grave)
How happy are those, through faith
  Who go amongst the living;
Their names are sweet-smelling
  And their sleep is so quiet!

After all their intense tribulations
  They are resting in peace,
Far from the sound
    of the world and its burden,
  Without pain in the dust of the grave.

Never will the voice
    of a single oppressor come
  To awaken them to weep any more,
Nor acute bereavement, nor cross -
  Not one anguish will they feel.

They have escaped above every ailment,
  To the land of the song and the feast,
To the heaven of heaven, to praise evermore
  Under the smiles of God and his peace.
in the dust of the grave :: above the grave

tr. 2009 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~