Mor deg dy bebyll di O Dduw
Mor dêg wy'th babell di O Dduw
Mor deg wy'th bebyll di O Duw

(Tegwch Pebyll Dyw)
Mor dêg wy'th bebyll di O Duw,
  Mor hawddgar yw'th gynteddoedd;
Nid oes fath gu balasau gwŷch
  Tu yma i entrych nefoedd.

Dy geisio'n daer o fewn dy dŷ,
  A'th bêr foliannu
      fynnwn:
Cyd-wleddwn gyd a'th anwyl blant
  A'th foliant a fynegwn.

Mae un diwrnod yno'n well
  Na mîl ym mhabell gwagedd;
Cawn yn dy dŷ gysuron da,
  Gwir felys a gorfoledd.

Mae cadw drws dy deml lân,
  Yn llawer mwy anrhydedd,
Na byw'n gyfoethog gyd â'r ffôl,
  Mewn rhyw frenhinol annedd.

Gwyn fyd a drîg o fewn dy dŷ,
  Cân' dy foliannu beunydd;
Cân' wisgo hardd ogoniant gwiw,
  Byth gyd a Duw'n dragywydd.

- - - - -
1,2,3,4,6,7,5;  1,2,(3,(5),6);  1,3,6.
Mor deg dy bebyll Di, O! Dduw,
  Mor hawddgar dy gynteddoedd!
Nid oes fath
    gu balasau gwych
  Tu yma i entrych nefoedd.

Preswylfa hardd y Brenin mawr
  Yw Seion werthfawr beunydd:
Ac yno bydd ei orsedd lân
  A'i drigfan yn dragywydd.

Dy geisio'n daer o fewn dy dŷ,
  A'th bêr foliannu fynnwn;
Cydwleddwn gyda'th annwyl blant,
  D'ogoniant yno gwelwn.

Y mae un diwrnod yno'n well
  Na mil ym mhabell gwagedd;
Cawn yn dy dŷ gysuron da,
  Gwir felys, a gorfoledd.

Pe meddwn i y ddaear faith
  A'r holl gre'digaeth hynod,
'Madwn yn rhwydd â'r rhain bob rhan
  Am drigfan yn Dy wyddfod.

Mae cadw drws dy deml lân,
  Yn llawer mwy anrhydedd,
Na byw'n gyfoethog gyda'r ffol,
  Mewn rhyw freninol annedd.

Gwyn fyd a drig o fewn dy dŷ,
  Gan dy foliannu beunydd;
Cânt wisgo hardd ogoniant fyth,
  A'u derbyn i'th lawenydd.

- - - - -
Mor dêg wy'th babell di, O Dduw, Mor hawddgar yw'th gynteddoedd! Nid oes fath gu balasau gwych Tu yma i entrych nefoedd. Dy geisio'n daer o fewn dy dŷ, A'th bêr foliannu fynwn; Cydwledda gyda'th anwyl blant; A'th foliant a fynegwn. Cawn yn dy dŷ gysuron da, Gwir felys, a gorfoledd; Mae un dydd yno'n llawer gwell Na milyn mhabell gwagedd. Gwyn fyd a drig o fewn dy dŷ, Gan dy foliannu beunydd; Cânt wisgo hardd ogoniant gwiw Byth gyda Duw eu Llywydd.
beunydd :: sanctedd :: hylwydd
Ac yno bydd ei orsedd lân :: Ei orsedd fainc sydd yno fydd
A'i drigfan yn dragywydd :: Ei fendith a'i anhrydedd
Cânt :: Caiff

1774 Benjamin Francis 1734-99

Tonau [MS 8787]:
    Bryn Meini (T Hopkin Evans 1879-1940)
    Degannwy (Benjamin Williams 1839-1918)
    Dyfrdwy (John Jeffreys 1718-98)
    Eisenach (J H Schein 1586-1630)
    Glanceri (D Emlyn Evans 1843-1913)
    Helder (<1876)
    Hiraeth (alaw Gymreig)
    Sabbath/Saboth (John Williams 1740-1821)
    St Beuno (1770 Ifan William, Llangybi.)
    St Ffraid (<1875)
    St Garmon (<1875)

(The Fairness of God's Tents)
How fair are thy tents O God,
  How beautiful are thy courts;
There are no such dear, great palaces
  This side of the vault of heaven.

To seek thee intently within thy house,
  And sweetly to praise thee
      I would insist:
To feast together with thy beloved children
  And thy praise I would express.

One day there is better
  Than a thousand in the tents of vanity;
I may get in thy house good, true,
  Sweet comforts and rejoicing.

Door-keeping in thy holy temple is,
  A much greater honour,
Than living richly with the foolish,
  In some royal dwelling.

Blessed is one who dwells within thy house,
  They may praise thee daily;
They may wear beautiful, worthy glory,
  Forever with God eternally.

- - - - -
 
How fair thy tents, O God!
  How beautiful thy courts!
There are not the kind of
    dear brilliant palaces
  This side of the vault of heaven.

Beautiful dwelling-place of the great King
  Is valuable Zion daily:
And there will be his holy throne
  And his residence eternally.

To seek thee intently within thy house,
  And sweetly praise thee I would insist;
I would feast with thy beloved children,
  Thy glory there I would see.

One day there is better
  Than a thousand in the tents of vanity;
We may get in thy house good comforts,
  Truly sweet, and jubilation.

If I should possess the vast earth
  And all the remarkable creation,
I would renounce these readily every part
  For a residence in Thy presence.

Keeping the doors of thy holy temple is
  A much greater honour,
Than living richly with the foolish,
  In some royal dwelling.

Blessed who resides within thy house,
  Praising thee daily;
They get to wear beautiful glory forever,
  And admitted to thy joy.

                  - - - - -

How fair is thy tent, O God,
  How beutiful are thy courts!
There are not the kind of
    dear brilliant palaces
  This side of the vault of heaven.

Seek thee earnestly within thy house,
  And to praise thee sweetly
      let us insist on;
Feast together with thy dear children;
  And thy praise let us communicate.

We may have in thy house good comforts,
  Sweet truth, and jubilation;
One day there is much better
  Than a thousand in the tent of emptiness.

Blessed who live within thy house,
  Praising thee daily;
They may wear beautiful, worthy glory
  Forever with God their Governor.
daily :: holy :: prosperous
And there will be his holy throne :: And his judgment seat will be there
And his residence eternally :: His blessing and his honour
They may :: He may

tr. 2010,17 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~