Mor fer yw f'oes ni pheru f'einioes fawr

(Am fyrdra oes a sicrwydd marwolaeth)
Mor fer yw f'oes!
    ni pheru f'einioes fawr
I fwy'n y byd,
    ond megis enyd awr:
  Dïau y daw im'
      ing a braw ryw bryd,
  Fel eraill âf,
      a minnau fyddaf fud.

Er bod yn iach
    am ennyd bach yn byw,
I fedd ar fŷr
    mae'm llwybr eglur yw:
  Un dydd nid oes
      o sicrwydd einioes im';
  I'r bedd yr âf,
      yn ol ni ddeuaf ddim.

Fy siwnai sydd yn faith,
    a'm dydd yr fyr;
Fel edau frau,
    fy oes dïau a dŷr:
  Mae eisiau bod
      yn barod cyn y bedd,
  I gadw gŵyl
      mewn nefol hwyl a hedd.
Edward Jones 1761-1836
Cofiant Edward Jones 1839

[Mesur: 10.10.10.10]

(About the brevity of life and the certainty of death)
How short is my life!
    my lifespan will not continue greatly
To live in the world,
    but as if a moment of an hour:
  Doubtless there will come to me
      anguish and terror some time,
  As others I shall go,
      and I too shall be mute.

Although healthy
    for a little moment living,
To the grave shortly
    is my path, it is clear:
  Not one day is
      of a certainty of a lifespan to me;
  To the grave I shall go,
      after I come to nothing.

It is my journey which is long,
    and my day short;
Like fragile threads,
    my life shall doubtless break:
  There is need to be
      ready before the grave,
  To keep festival
      in heavenly joy and peace.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~