Mor hardd bu'r Prophwydi, mor wresog, Yn traethu Gair enwog yr Ior! Mor beraidd ar fryniau Caersalem Oedd caniad ac anthem eu côr! Yr Yspryd ennynodd eu carol Prophwydol a dwyfol yn dân; Tystiolaeth yr Iesu bendigaid Oedd byrdwn ac enaid eu cân. Yr Iesu oedd pwngc y cysgodau A'r gwaedlyd aberthau bob un, Eu sylwedd a'u disglair ogoniant Oedd aberth ei haeddiant ei Hun: Rhoi terfyn ar swydd yr aberthwr Yn angau'r Cyfryngwr a wnaed; Daeth diwedd i'r gyfraith gysgodol, Efengyl dragywyddol a gaed. O Dduw, 'r hwn a ro'ist yr Ysgrythyr Yn addysg a chysur i ni, Rho d'Yspryd i agor ein golwg I'w deall, attolwg i Ti: - Gwna'm calon, mewn cariad a gobaith, Yn ufudd i'th gyfraith, fy Nuw, Ac yna, pan ddarffo fy mywyd, I wynfyd dwg f'yspryd i fyw.Y Flwyddyn Eglwysig 1843 [Mesur: 9898D] |
How beautifully were the prophets, how warmly, Expounding the famous Word of the Lord! How sweet on the hills of Jerusalem Were the song and anthem of their choir! The Spirit kindled their prophetic And divine carol as a fire; The testimony of the blessed Jesus Was the burden and soul of their song. Jesus was the theme of the shadows And the bloody sacrifices, every one, Their substance and their shining glory Was the sacrifice of His own merit: An end to the office of the sacrificer In the death of the Mediator was put; An end came to the shadowy law, An eternal gospel was got. O God, thou who gavest the Scriptures As education and a comfort to us, Give thy Spirit to open our eyes To understand them, we beseech Thee: - Make my heart, in love and hope, Obedient to thy law, my God, And then, when my life fades, To blessedness take my spirit to live.tr. 2019 Richard B Gillion |
|