Mor hardd yw traed cenhadon hedd

1,2,(3),4,5,6.
(Gweinidogion y Gair - Salm 68.11.)
Mor hardd yw traed
    cenhadon hedd
  Yn gwa'dd i'r wledd brïodas!
Mor ber eu llais,
    mor daer eu llef,
  Yn gwa'dd i'r nef a'i theyrnas!

Mae hyfryd lais efengyl fwyn
  I'n clyw yn dwyn ei doniau,
Sef Crist a'i waed
    o ddwyfol rin,
  Yn fywyd i'n heneidiau.

Mae udgorn arian Crist a'i Iawn
  Yn felus iawn yn seinio;
O! deued pechadurus fyd
  A'i bobl i gyd i wrando.

Udgenwch, Efangylwyr Ion,
  Ar sanctaidd Sïon fynydd,
Cyhoeddwyd ddydd y Jubili,
  Fe roed i ni Waredydd.

Ewch, amgylchynwch ddaear lawr
  Yn fintai fawr genhadol,
Pregethwch Grist a'i olud llawn,
  Ei rad, a'i Iawn gwaredol.

A holl deyrnasoedd daear gron
  Yn eiddo'n Crist ei hunan;
A theyrnas Dduw
    a'i Fab ynghŷd
  A leinw'r byd yn gyfan.
Udgenwch :: Utgenwch
A holl :: Doed holl :: Aed holl

Morris Williams (Nicander) 1809-74
Y Flwyddyn Eglwysig 1843

Tonau [MS 8787]:
Brynhyfryd (John Williams 1740-1821)
Ely (Thomas Turton 1780-1864)
Glanceri (D Emlyn Evans 1843-1913)
Mary (J Ambrose Lloyd 1815-74)

(Ministers of the Word - Psalm 68:11)
How beautiful are the feet
    of the emissaries of peace
  Inviting to the wedding feast!
How sweet their voice,
    how intent their cry,
  Inviting to heaven and its kingdom!

The delightful voice of the dear gospel is
  To our hearing bringing its gifts,
That is Christ and his blood
    of divine merit,
  As life to our souls.

The silver trumpet of Christ and his Ransom
  Is very sweetly sounding;
O let the sinful world come
  With all its people to listen.

Sound ye trumpets, Evangelists of the Lord,
  On the sacred hill of Zion,
The day of Jubilee has been announced,
  A Deliverer has been given to us.

Go ye, surround the earth below
  As great missionary cohorts,
Preach ye Christ and his full wealth,
  His grace, and his saving Ransom.

May all the round earth's kingdoms become
  The possession of Christ himself;
And may the kingdom of God
    together with his Son
  Fill the whole world.
::
::   ::

tr. 2019 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~