Mor hyfryd mynd o dwrf y byd I ddwedyd fy holl gŵyn, Heb neb ond Duw a minnau'n nghyd Yn y gyfrinach fwyn! Wrth Dduw caf ddweyd fy angen oll, Heb ofni byrdra dawn; Ac er mor dywyll wyf o'i flaen, Fe'm gwrendy yn yr Iawn. Ni fethodd gweddi daer erioed A chyrraedd hyd y nef; Ac mewn cyfyngder, f'enaid, rhed Yn union ato Ef! Mae'r orsedd fawr yn awr yn rhydd, Gwrandewir llais y gwan: Wel, cyfod bellach, f'enaid prudd, Anadla tua'r lan.1,2: Caniadau Bethel (Casgliad Evan Edwards) 1840 3,4: William Williams 1717-91
Tonau [MC 8686]: gwelir: Agorwyd pyrth y nefoedd wiw I'th 'stafell dos medd Iesu mwyn Iesu yw 'Mrawd a 'Mhriod pur Ni fethodd gweddi daer erioed |
How lovely to go from the din of the world To tell my whole complaint, With no-one but God and me together, In the tender confidence! To God I may tell all my need, Without fearing the smallness talent; And although I am so dark before him, He will listen to me in the Ransom. Earnest prayer has never failed To reach as far as heaven; And in straits, my soul, run Directly to Him! The great throne is now accessible, The voice of the weak is to be listened to: See, arise henceforth, my sad soul, Aim upwards.tr. 2015 Richard B Gillion |
|