Mynnwn chwifio'r faner, Blant yr Ysgol Sul, Cerddwn oll bob amser, Hyd y llwybr cul; Hardd yw gweled blodau Gylch y llwybr llon, Drwyddo cawn ni wenau Crist o fewn y fron. Chwifiwn ein baneri, Ar bob bryn a phant; Rhoddwn glod i'r Iesu, Ni y tyner blant. Byddwn oll yn ffyddlon I'r hen Ysgol fad, Boed yn bur ein calon Er cael gweld ein Tad; A chawn wedyn glywed Holl gyfrinach Duw, Bydd yn hawddach cerdded Ffyrdd y nef wrth fyw. Caru mae yr Iesu Blant yr ysgol wen, - Erddynt bu yn gwaedu Ar y garw bren; Teilwng yw o'n bywyd Am Ei Aberth drud; Gweithiwn drosto'n ddiwyd Er gwaredu'r byd.Beirianfa Caniedydd Newydd yr Ysgol Sul 1930 Tôn [6565D+6565D]: Glyndwr (1920 Dan Roberts) |
Let us insist on waving the flag, Children of the Sunday School, Let us all walk, all the time, Along the narrow path; Beautiful it is to see flowers Around the cheerful path, Through it we get the smiles Of Christ within the breast. Let us waves our flags, On every hill and hollow; Let us render praise to Jesus, We the tender children. Let us all be faithful To the old, virtuous School, Let our heart be pure In order to get to see our Father; And we will then get to hear All the mystery of God, It will be easier to walk The ways of heaven while living. Loving is Jesus The children of the bright School, - For their sakes he bled On the rough tree; Worthy is he of our life For His costly Sacrifice; Let us work for him devotedly In order to deliver the world.tr. 2016 Richard B Gillion |
|