N'ad im adeiladu'n ysgafn
N'ad fi adeiladu'n ysgafn

1,2,(3),4;  1,2,4,5.
(Crist yn Sylfaen)
N'ad im adeiladu'n ysgafn
  Ar un sylfaen is y ne';
N'ad im gymryd craig i orffwys
  Tu yma i angau yn dy le:
    Ti, fy Nuw, tra bwyf byw,
  Gaiff fod fy ngorffwysfa wiw.

Dyma'r maen sydd yn y gongol,
  Dyma'r garreg werthfawr, bur
Gloddiwyd allan yn y bryniau,
  Bryniau tragwyddoldeb dir;
    Nid oes le, is y ne',
  I adeiladu ond efe.

Byth ni dderfydd canu am dano,
  Byth ni dderfydd am ei glod,
Tra fo caru pery canu,
  Caru sydd heb ddechreu'n bod;
    Nefoedd fry, 'n gysson sy
  Oll yn canu i'm Harglwydd cu.

Minnau'r gwaela' o bechaduriaid,
  Yn y diwedd rhof fy nhroed
Ar y graig sydd yn y moroedd,
  Craig gadarnaf fu erioed;
    Ceidw hon, rhag pob ton,
  Ofnau i ffwrdd o dan fy mron.

Ni all hwnw sy'n dy nabod
  Lai na dilyn ôl dy droed;
Ac ni cha'dd a welodd d'wyneb
  Wel'd cyffelyb iddo erioed;
    Tyr'd yn glau, Iesu, mae
  F'enaid euog bron llesghau.
N'ad im :: N'ad fi
N'ad im gymryd :: Na chymmeryd
Ti, fy Nuw, :: Iesu'm Duw,
Ofnau i ffwrdd :: Ofnau ffwrdd
Ni all :: Nis gall
dy nabod :: D'adnabod

William Williams 1717-91

Tonau [878767]:
Coblentz (Joachim Neander 1650-80)
Groeswen (J Ambrose Lloyd 1815-74)
Gweddi Wladgarol (Caradog Roberts 1878-1935)
Iorddonen (<1835)
Luxemburg (<1875)
Moldavia (alaw Ellmynig)
Rheidol (John Roberts 1822-77)
Wyddgrug (J Ambrose Lloyd 1815-74)

gwelir: Tyred Arglwydd ar amseroedd

(Christ a Foundation Stone)
Do not let me built lightly
  On any foundation under heaven;
Do not let me take a rock to rest
  On this side of death in thy place:
    'Tis thou, my God, while I live,
  Wilt get to be my worthy resting place.

Here is the stone which is in the corner,
  Here is the valuable pure stone
Dug out in the hills,
  Hills of an eternal land;
    There is no place, under heaven,
  To build but him.

May singing about him never cease,
  About his praise never cease,
While there be loving, may singing endure,
  Loving with no beginning of being;
    Heaven above constant is,
  All singing to my dear Lord.

As for me, the worst of sinners,
  In the end I will put my foot
On the rock which is in the seas,
  The firmest rock that ever was;
    This will keep, against every wave,
  Away with fears from my breast!

The one who knows thee can do no
  Less than follow thy footprint;
And no-one who saw your face has got
  To see its like ever;
    Come quickly, Jesus, my
  Guilty soul is almost fainting.
::
Do not let me take :: Nor take
Thou, my God, :: Jesus my God,
::
::
::

tr. 2009,16 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~