Na foed cydweithwyr Duw Byth yn eu gwaith yn drist Wrth ddwyn y meini byw I'w dodi'n nhemel Crist: Llawenydd sydd, llawenydd fydd I bawb sy'n gweithio 'ngolau ffydd. Pam mae'r telynau draw Ar helyg Babel bell, Pan eilw Duw bob llaw A thant ar amcan gwell? Ar furiau Seion gweddus yw Sŵn mawl wrth weithio gyda Duw. Mae gweithwyr gorau'r ne' Yn marw yn eu gwaith, Ond eraill ddaw'n eu lle Ar hyd yr oesoedd maith; A ffyddlon i'w addewid fry Yw'r hwn a fu'n sylfaenu'r tŷ. Mae'r Iesu eto'n fyw, A'r gwaith sydd dan ei law; Ar gyfer gweithwyr Duw Mae bendith oesau ddaw: Llawenydd mawr ynghyd a gawn Ryw ddydd, wrth weld y tŷ yn llawn.Howell Elvet Lewis (Elfed) 1860-1953 Caniadau Elfed 1895
Tonau [666688]: |
Let not the fellow-workers of God Ever be sad in their work While bringing the living stones To set them in the temple of Christ: Joy there is, joy there shall be For all who are working in the light of faith. Why are the harps yonder On distant Babylon's willows, When God calls every hand And string to a better purpose? On the walls of Zion worthy is The sound of praise while working with God. The best of heaven's workers are Dying in their work, But other shall come in their place All along the vast ages; And faithful to his promise above Is he who was the foundation stone of the house. Jesus is still alive, And the work is under his hand; For the workers of God There is the blessing of ages to come: Great joy together we shall have Some day, on seeing the house full.tr. 2024 Richard B Gillion |
|