'Nawr boddlon wyf, can's digon yw Dy fod yn eiddo imi, fy Nuw! Yn t'wynu yn dy wyneb pryd, Mae mwy na holl drysorau'r byd. Cymmerant hwy sawl f'o am gael, Mwynhâd o'u holl bleserau gwael, Ond boed fy awaydd tra fwy'f byw Am wel'd dy wyneb di fy Nuw. Dy gariad sy arnaf eisieu o hyd, Dy gariad wy'n ddymuno i gyd; Fy mwyd a'm dïod oll yn wir, A'm hiechyd, yw Dy gariad pur. Y nef ei hun yw'r màn b'ost Ti, A lle na b'ost yw uffern ddu: Am hyn yn holl dröadau'r llawr Boed f'enaid gyda'm Iesu mawr. Pan allwyf gredu, ond yn wàn Dy fod Dy Hunan imi'n rhan, Mae hyn yn troi fy mhoen o'r bron Yn rhyw lawenydd tàn fy mron: Pan b'wyf yn wàn, gwna hyn fi'n gryf, A phan b'wy'n ofni gwna fi'n hyf; Pan byddwy'n rhwym, fe'm gwna yn rhydd, 'Fath rinwedd yn Dy gariad sydd! màn b'ost Ti :: man 'r wyt ti na b'ost yw :: nad wyt sydd
Tonau [MH 8888]: |
Now I am satisfied, for it is sufficient That thou dost belong to me, my God! Shining in thy countenance, Is more than all the world's treasure. Those who want to have it, take Enjoyment of all their base pleasures, But may my desire, while ever I live, be To see thy face, my God. Thy love I want still, Thy love I will desire altogether; All my food and my drink truly, And my health, is Thy pure love. The heaven itself is the place Thou wast, And where thou wast not is black hell: Therefore in all the turnings of earth May my soul be with my great Jesus. When I can believe, but am weak Thou art Thyself a portion to me, This turns my pain totally Into some joy beneath my breast: When I am weak, this makes me strong, And when I fear it makes me bold; When I am bound, it makes me free, Oh what virtue is in Thy love! place thou wast :: place thou art where thou wast not is :: where thou art not is tr. 2010,20 Richard B Gillion |
|