Ni allwn ni ond hau yr had

(Cynhaeaf)
Ni allwn ni ond hau yr had,
  A medi ffrwyth y llawr;
Mae holl gynhaeaf hardd ein gwlad
  Yn llaw yr Arglwydd mawr;
Efe sy'n danfon gwlith a glaw,
  A gwres yr heulwen wiw,
A gwawl y lloer - pob bendith ddaw
  O orsedd deg ein Duw.

Rhydd inni obaith y cawn fyw
  Cyn hir yng ngwlad y nef,
I weled ei ogoniant gwiw
  A moli'i gariad Ef;
Boed inni, ynteu, ar y llawr,
  Roi parch i lais ein Tad,
Ymostwng i'w drefniadau mawr,
  A chanu am ei rad.
Psalmau a Hymnau, S.P.C.K., 1861.

Tôn [MCD 8686D]: Sunninghill
    (George Job Elvey 1816-93)

(Harvest)
We can only sow the seed,
  And reap the fruit of earth;
All the beautiful harvest of our land is
  In the hand of the great Lord;
'Tis he who sends dew and rain,
  And the warmth of the worthy sun,
And moon's light - every blessing comes
  From the fair throne of our God.

He gives us hope that we may live
  Before long in the land of heaven,
To see his worthy glory
  And praise his love;
Let us, then, on the earth,
  Give respect to the voice of our Father,
Submit to his great purposes,
  And sing of his grace.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~