Ni aned neb erioed i'r byd Fel Iesu Grist; Ni fu un gŵr o'i fewn i gyd Fel Iesu Grist; O'r holl greadigaeth, gorau gwawr, Sydd yn y nef a'r ddaear lawr, Nid oes, ni fu yr un mor fawr Ag Iesu Grist; A chofio geni hwn yw'r gān Sy'n gwneud y nefol deulu'n dān, Yn don o glod i'w enw glān, O Iesu Grist! Ac nid yn unig yn y nef Mae'r gān i gyd: Datseinia'r ddaear lafar lef I Brynwr byd. Ar ōl y codwm mawr a'i loes, O Eden draw y dyn a droes I weled Iesu Grist a'i groes A chael iachād; Edrychai'r tadau hwythau'n hir Am Iesu gwiw, Feseia gwir, Ar ddiwrnod byddai'n dod i dir O dŷ ei Dad.Ebenezer Thomas (Eben Fardd) 1802-63 [Mesur: 8484.8884.8884] |
No-one was ever born to the world Like Jesus Christ; There never was one within it all Like Jesus Christ; Of all the creation, the best dawn, That is in heaven and the earth below, There is not, there was not one so great As Jesus Christ; And remembering his birth is the song That makes the heavenly family a fire, A wave of praise to his holy name, O Jesus Christ! And not only in heaven Is all the song: The earth resounds with a loud cry To the world's Redeemer. After the great fall and its anguish, From yonder Eden the man who turned To see Jesus Christ and his cross And get healing; Their fathers looked long For worthy Jesus, true Messiah, Upon the day when he would come to the land Of his Father's house.tr. 2023 Richard B Gillion |
|