Ni chafodd Brenin nef

1,2,(3,4).
Ni chafodd Brenin nef,
Y dydd y ganed Ef,
  Yn cartref gwych;
O'r fath ryfeddod mawr!
Etifedd nef a llawr
A gaed cyn torri'r wawr
  Yn llety'r ych.

Ond cododd goleu mawr
Ar deulu daear lawr, 
  Yn awr o'r nef;
Am lawer oes, fe fu 
Yn gaeth luosog lu,
Dan gysgod angeu du,
  Nes ganwyd ef.

Am Grist a'i farwol glwy',
Mae sôn yn myned drwy
  Ororau maith;
Y mae'r efengyl lân,
Fel pur angerddol dân,
Yn 'hedeg yn y blaen,
  I blith pob iaith.

Daw'r anial dîr fel gardd,
Yn llawn rhosynau hardd,
  Ardderchog wedd:
Y ddaear a fydd lawn
O bob rhinweddol ddawn,
Ac yn flodeuog iawn
  Mewn gras a hedd.
ryfeddod mawr :: ryfeddod fawr

1-2: Casgliad Samuel Roberts 1841
3-4: Caniadau Y Cysegr 1855

Tôn [664.6664]: Moscow (Felice de Giardini 1716-96)

gwelir: Am Grist a'i farwol glwy'

The King of heaven did not get
On the day He was born,
  A brilliant home;
Oh, what a great wonder!
The heir of heaven and earth
Was found before the break of dawn
  In the lodging of the oxen.

But a great light arose
On the family of earth below,
  Now from heaven;
For many an age, it was
A captive numerous host,
Under the shadow of black death,
  Until he was born.

About Christ and his mortal wound,
The mention is going through
  Vast frontiers;
The holy gospel is
Like pure intense fire,
Flying forwards,
  Into the midst of every language.

The desert land will become like a garden,
Full of beautiful roses,
  Of exceptional appearance:
The earth shall be full
Of every virtuous gift,
And greatly flourishing
  In grace and peace.
::

tr. 2015 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~