Ni ganwn glôd i'r Iesu mawr, Ein Tarian yw o awr i awr; Mor felys yw ei eiriau Ef, - Mai eiddo plant yw teyrnas nef. Clodforwn enw'r Bugail Da, Ein galw'n ol a'n gwylio wna; Mae yn ei lais i'w blant cytun, Addewid oreu Duw ei hun. Fe ddwg ei braidd o'r anial dir, I'r bras borfeydd a'r dyfroedd clir; Ac mae cysuron penna'r nef O fewn ei gorlan gynnes Ef. Mawr yw Ei ofal am Ei ŵyn, Ac nis gall neb o'i law eu dwyn; Ei fynwes yw eu lloches hwy, Ac ni ddaw blaidd i'w tarfu mwy.Evan Rees (Dyfed) 1850-1923 Perorydd yr Ysgol Sul 1915
Tôn [MH 8888]: Prudence |
We sing praise to the great Jesus, Our Shield he is from hour to hour; How sweet are his words, - That belonging to children is the kingdom of heaven. Let us extol the name of the Good Shepherd, Call us back and watch us he does; In his voice, for his united children, is The best promise of God himself. He will lead his flock from the desert land, To the rich pastures and the clear waters; And the chief comforts of heaven are Within his warm fold. Great is his care for his lambs, And no-one can take them from his hand; His bosom is their refuge, And no wolf shall come to disturb them anymore.tr. 2023 Richard B Gillion |
|