Nid ar fore hafddydd tawel Gwelwyd Iesu'n rhodio'r don, Ond ar noswaith o gyfyngder Pan oedd pryder dan bob bron; Ni fu nos na thywydd garw Allsai gadw f'Arglwydd draw: Ni fu neb erioed mor isel Na châi afael yn ei law. Ganol nos pan oedd mewn gweddi Cofiai am eu gofid hwy; Mae yn cofio, cofio eto Yn y nef am lawer mwy; Er bod canu'r gwynfyd iddo A'r holl nefoedd yn y côr, Mae yn gweled ei rai annwyl Wrth eu rhwyfau ar y môr. Nid yw'r Iesu'n well yn unman Nag yng ngwaetha'r storom gref; Mae y gwynt a'r nos a'r tonnau Oll yn eiddo iddo ef; Mae yn felys, melys meddwl, Wedi colli'r cyfan bron, Gwelir ninnau yn ddihangol Gyda'r Gŵr sy'n rhodio'r don.Howell Elvet Lewis (Elfed) 1860-1953 Y Dysgedydd, Chwefror 1891.
Tonau [8787D]: |
Not on a quiet summers' day morning Was Jesus seen walking the wave, But on an evening of straits When worry was under every breast; There was no night or rough weather That could keep my Lord away: There never was anyone so lowly As would not get to hold his hand. Midnight when he was in prayer He would remember their distress; He is remembering, remembering still In heaven much more; Although the blessed are sinning unto him And all the heavens in the choir, He is seeing his beloved ones At their oars on the sea. Jesus is no better anywhere Than in the worst of the strong storm; The wind and the night and the waves All belong unto him; It is sweet, sweet to think, Having lost everything almost We are to be seen safe With the Man who walks the wave.tr. 2024 Richard B Gillion |
|