Nid dyma'r fan y mae fy rhan

1,(2),3,4,5,6.
(Golwg ar Dragwyddoldeb)
Nid dyma'r fan y mae fy rhan,
  Na'm trigfan mewn prysurdeb;
Mae'm tŷ a'm tre' mewn amgen lle,
  Ar fryniau tragwyddoldeb.

Ni feiddia ' mwy segura'n hwy,
  Na heppian trwy farweidd-deb;
Rhag bod yn ol fel morwyn ffôl
  Trwy gydol trag'wyddoldeb.

Rhaid myn'd yn mlaen trwy ddŵr a thân,
  A'r cyfan fo'n wrthwyneb;
Mae f'oes yn frau, a hi'n hwyrhau;
  Nesâu mae tragwyddoldeb.

Ni all y byd a'i bethau ' gyd
  Roi'm henaid drud foddlondeb;
Mae trysor da a'm
    llwyr foddha
  Yn nghadw'n nhragwyddoldeb.

Yno mae'm Duw, fy Nhad, yn byw,
  Mewn hardd a gwiw ddysgleirdeb;
A'r Iesu da, fu'n dwyn fy mhla,
  Gaf wel'd yn nhragwyddoldeb.

Dduw, brysiau'r pryd - par'tô ni ' gyd
  I gael o hyd gymundeb
A'r brodyr fry, ardderchog lu,
  I'th foli'n nhragwyddoldeb.
David Thomas (Dafydd Ddu o Eryri) 1759-1822 (?)
Diferion y Cyssegr 1802

Tôn [MS 8787]: Dymuniad (R H Williams 1805-76)

(View on Eternity)
Here is not my portion,
  Nor my dwelling in haste;
My house and my home are in another place,
  On the hills of eternity.

I shall not risk being idle any more,
  Nor snoozing through mortality;
Lest I be left behind like a foolish virgin
  Throughout the rest of eternity.

One must go on through water and fire,
  And the whole be contrary;
My life is fragile, and it is getting late;
  Approaching is eternity.

The world with all its things cannot
  Give my precious soul contentment;
Good treasure that will
    completely satisfy me
  Is kept in eternity.

There is my God, my Father, living,
  In beautiful and worthy radiance;
And the good Jesus, who took my plague,
  I shall get to see in eternity.

God, hasten the time - prepare us all
  To find communion
With the brothers above, an excellent host,
  To praise thee in eternity.
tr. 2021,24 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~