Nid oes eisiau un creadur

1,2,3,(5),6;  1,2,4,(5,(6));  1,2,5.
(Duw a Digon)
Nid oes eisiau un creadur
  Yn bresennol lle bo Duw;
Mae E'n fwyd, y mae E'n ddiod,
  Nerth fy natur egwan yw:
    Pob hapusrwydd
  Sydd yn aros ynddo'i Hun.

Gyrrwch fi i eithaf twllwch,
  Hwnt i derfyn oll sy'n bod,
I ryw wagle dudew anial,
  Na fu creadur ynddo 'rioed;
    Hapus hapus
  Fyddaf yno gyda Thi.

Rho'f ffarwel i'r holl gre'digaeth,
  Ffarwel feusydd gwych eu rhyw;
Ffarwel deiau, ffarwel diroedd,
  Ffarwel dynion goreu'n fyw:
    Gwych gyfnewid,
  Duw ei hunan yn lle'r byd.

Nis gall dychryn, nis gall ofnau
  Nis gall pechod yn gyttûn,
Gael un effaith ar fy enaid
  Pan y byddwyf wrth dy glun;
    Ofer, ofer
  Ceisio'm cyffwrdd yn dy gôl.

Nid oes unman imi'n gartref,
  Nid oes drigfan o un rhyw
Alla'i galw yn hyfrydwch
  Imi'n awr ond mynwes Duw;
    Yn ei fynwes
  Mae fy naear i a'm nef.

Beth wyf gwaeth, pe llyngcai'r moroedd
  Ddaear ëang yn eu croth?
Beth wyf gwaeth pe
      d'ai gwaelodion
  Dyfnder mawr yn berffaith noeth?
    Beth yw colli,
  Môr a daear, ond cael Duw?
lle bo Duw :: lle bo'm Duw
Na fu creadur ynddo 'rioed ::      
      Lle na sangodd dyn erioed
Alla'i galw :: Allaf alw

William Williams 1717-91
Ffarwel Weledig 1763

Tonau [878747]:
Gwenllian (E T Davies 1878-1969)
Oriel (Cantica Sacra 1840)
Russia (Alexis F Lvov 1798-1870)
Tamworth (hen alaw)
Verona (alaw Ellmynaidd)

gwelir:
  Fe gynnygiodd dyfroedd lawer
  Gyrwch fi i eithaf t'wyllwch

(God will suffice)
There is no need of any creature
  Present wherever God is;
He is food, and He is drink,
  The strength of my weak nature he is:
    Every happiness
  Is abiding in Him himself.

Drive me to the extreme of darkness,
  Beyond the boundary of all that is,
To some black, desert, empty place,
  In which no creature has ever been;
    Happy, happy,
  I will be there with Thee.

Say farewell to the whole creation,
  Farewell fields of an excellent kind;
Farewell houses, farewell lands,
  Farewell the best men alive:
    An excellent exchange,
  God himself in place of the world.

Horror cannot, fears cannot
  Sin cannot in agreement,
Get any effect on my soul
  When I am at thy thigh;
    Useless, useless,
  Trying to touch me in thy bosom.

Nowhere is home to me,
  There is no dwelling of any kind
I cannot call anything delightful
  To me now, but God's breast;
    In his breast
  Is my earth and my heaven.

What harm to me if the seas swallowed
  The wide earth in their womb?
What harm to me, if the bottoms
      of the great deep
  Should become perfectly naked?
    What is it to lose
  Sea and earth, but to get God?
::
In which no creature has ever been ::      
      Where no man has ever trod
::

tr. 2015 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~