Nid yw yr angeu ond rhyw hûn, Cwsg yw ei gynllun gwyw; Mae'n rhoddi'r corph dan awydd caeth Marwolaeth drom ei rhyw. Caf ar fy meddrod roi fy mhwys, A gorphwys yn ddi gur, Gobenydd esmwyth heb un iâs, Mwy nag mewn palas pur. Yn mha fodd bynag, a lle b'wyf, Yr hunwyf yr awr hon Poed im' gael deffro gyda'm Duw, O'r llwch i fyw yn llon. 'Rwy'n awr yn gorwedd, bryfyn gwan, Flin druan ar lawn draul, I ddeffro, neu i farw ar fyr 'Nol trefn fy natur wael. Fy nyddiau syrthion dan y ser, Sy'n ofer îs y ne'; Yn ol im' ddeffro, cwsg a ddaw I'm llwythaw yn mhob lle. O! na lewyrchai'r nefol wawr, Trag'wyddol wawr ddilyth, I ddeffro heb ddim huno mwy, Mewn trefn safadwy fyth.1808 Dafydd Owen (Dewi Wyn o Eifion) 1784-1841 [Mesur: MC 8686] |
Death is nothing but a kind of slumber, Sleep is its weary plan; It puts the body under the captive desire Of death's heavy kind. I may lean upon my tomb, And rest painlessly, A smooth pillow with no more pang Than in a pure palace. In whatever manner, and place I am I shall sleep this hour Let me get to awake with my God, From the dust to live cheerfully. I am now lying, a weak worm, A weary wretch fully spent, To awake, or to die shortly According to my base nature. My days that fell under the stars, Are vanity under heaven; After I awake, sleep shall come To burden me everywhere. O that the heavenly dawn would shine An eternal, unfailing dawn, To awaken with no slumbering any more, In a secure station forever.tr. 2021 Richard B Gillion |
|