Nis gwyddom pa ddydd daw ein Harglwydd I symud ein gofid a'n wae; Ond gwyddom cawn fod ar Ei ddelw, A'i weled Ef fel ag y mae: Nis gwyddom pa faint fydd Ei gwmni, Na maint eu gogoniant a'u bri - Ond gwyddom bydd anthem calfaria'r Gerddoriaeth felysaf i ni. Nis gwyddom mor hardd fydd ein cartref, Na faint fydd llawenydd y llu, Ond gwyddom cawn groesaw gan Iesu, A dyna fydd nefoedd i ni; O Iesu! ein Ceidwad bendigaid, A hoeliwyd ar groes Calfari - Bydd gweled Dy wyneb a'th wenau Yn nefoedd dragwyddol i ni!Thomas Levi 1825-1916
Tôn [9898D]: |
We do not know what day our Lord shall come To remove our grief and our woe; But we know we shall get to be in his image, And see him as he is: We do not know how great shall be his company, Nor how great his glory an his renown - But we know the anthem of Calvary shall be The sweetest music to us. We do not know how beautiful shall be our home, Nor how great shall be the throng's joy, But we know we shall get a welcome from Jesus, And that shall be heaven to us; O Jesus, our blessed Saviour, Who was nailed on the cross of Calvary - To see thy face and thy smiles shall be Eternal heaven to us!tr. 2020 Richard B Gillion |
|