Nerth i dewi, rho i mi Yn fy nhrallod: Gad im wel'd Dy orsedd Di Heibio'r gawod; Gloywa lygad gwan fy ffydd, Gad im gofio Mae y Llaw dyneraf sydd Arna'i'n gweithio. Gruddfan mae fy natur wan Dan ei loesau, A llesmeirio'n fynych gan Ofn y croesau: 'Nôl y dydd, O! rho Dy nerth Yn fy adfyd; Dyner Dad, dadguddia nerth Stormydd bywyd. D'wed ei neges wrth y gwynt Sydd yn curo; Rhodia'r tonau megis cynt I'm cysuro: Ac os byth yn Salem lân Gwelir finau, Try f'ochenaid oll yn gân Ar ei glanau.Griffith Pennar Griffiths (Penar) 1860-1918 Tôn [7474D]: Cambria (Daniel Protheroe 1866-1934) |
Strength to be silent, give to me In my tongue: Let me see thy throne Beyond the shower; Brighten the weak eye of my faith, Let me remember That the tenderest hand is Working upon me. Groaning is my weak nature Under its anguish, And losing heart often by Fear of the crosses After theday, O give thy strength In my adversity! Tender Father, reveal thy strength In the storms of life. Tell its message to the wind That is beating; Walk the waves as formerly To comfort me: And if never in holy Salem I am to be seen, My groaning shall all turn to song On its shores.tr. 2021 Richard B Gillion |
|