Newyddion braf a ddaeth i'n bro

(Y Carchorion yn Rhydd)
1,2,3,(4).
Newyddion brâf a ddaeth i'n bro,
Hwy haeddent gael eu dwyn ar go',
  Mae'r Iesu wedi cario'r dydd,
  Caiff carcharorion fynd yn rhydd.

+ cytgan gan Elfed Lewys 1934-99

Mae Iesu Grist o'n hochor ni,
Fe gollodd ef ei waed yn lli;
  Trwy rinwedd hwn fe'n dwg yn iach
  I'r ochor draw 'mhen gronyn bach.

Wel, f'enaid, bellach cod dy ben,
Mae'r ffordd yn rhydd i'r nefoedd wen;
  Mae'n holl elynion ni yn awr
  Mewn cadwyn gan y Brenin mawr.

Doed gogledd, de, a dwyrain bell,
I glywed y newyddion gwell;
  Aed sôn am gadwedigol ras,
  Yn gylch oddeutu'r ddaear las.
bellach :: weithian
- - - - -
1,2,(3,(4));  1,2,4,5,6,7.
Newyddion braf a ddaeth i'n bro,
Hwy haeddent gael eu dwyn ar go'
  Mae'r Iesu wedi cario'r dydd,
  Caiff carcharorion fyn'd yn rhydd.

Mae Iesu Grist o'n hochr ni,
Fe gollodd ef ei waed yn lli;
  Trwy rinwedd hwn fe'n dwg yn iach,
  I'r ochr draw 'mhen gronyn bach.

Wel, f'enaid, weithian c'od dy ben,
Mae'r ffordd yn rhydd i'r nefoedd wen;
  Ein holl elynion sydd yn awr,
  Mewn cadwyn gan y Brenin mawr.

Fy Iesu garai bellach mwy
Ddioddefodd drosof farwol glwy';
  Fy Mhriod hynod yw o hyd,
  A'm cyfaill goreu yn y byd.

Doed fel y dêl, mi a'i cara o hyd
Dan bob rhyw drallod
    yn y byd,
  Yn angau du a'r farn a ddaw.
  Mi a'i cara i drag'wyddoldeb draw.

Pan syrthio'r ser fel ffigys îr,
Pan ferwo'r mor, pan losgo'r tir,
  Pan droir yr haul a'r lloer yn ddu,
  Pryd hyn mi gara
      Mhrynwr cu.

Tra caffwyf rodio'r ddaear hon,
Rho'th hedd fel afon dan fy mron;
  Ac yn y diwedd
      moes dy law,
  I'm dwyn i mewn i'r nefoedd draw.
Mae'r Iesu wedi :: Fod Iesu wedi :: Bod Iesu wedi
fe'n dwg yn iach :: fe'n dŵg ni'n iach
garai :: garaf
Ddioddefodd :: Dyoddefodd
bellach :: weithian
- - - - -
Newyddion brâf a ddaeth i'n bro A haeddent gael eu dwyn ar go', Mae'r Iesu wedi carrio'r dydd Caiff carcharorion fyn'd yn rhydd. Mae Iesu Grist o'n hochr ni, 'Fe gollodd ef ei waed yn lli; Drwy rinwedd hwn 'fe'n dŵg yn iach, I'r ochr draw mhen gronyn bach. Wel' f'enaid bellach cod dy ben Mae'r ffordd yn rhydd i'r nefoedd wen; Mae ein gelynion oll yn awr, Dan cadwyn gan y Brenhin mawr. Ffordd newydd wnaeth, i'n gwared ni Rhag syrthio 'lawr i uffern ddu; Agorodd ef pan rwygai'r llen, Holl euraidd byrth y nefoedd wen. I foli ei enw sanctaidd ef Cyn-uned daear lawr a nef; Ei lân efengyl aed trwy'r byd, A llanwer pawb a'i gariad drud.
- - - - -
1,2,3;  1,3,4.
Newyddion braf a ddaeth i'n bro,
Hwy haeddent gael eu dwyn ar go',
  Fod Iesu wedi cael y dydd;
  Caiff carcharorion fyn'd yn rhydd.

Cyfododd yn ei erbyn Ef
Y ddaear, uffern, do, a'r nef;
  Ond sefyll wnaeth ein Prynwr drud,
  Dan eithaf dig y rhai'n i gyd.

Ein holl elynion sydd yn awr
Mewn cadwyn gan ein Prynwr mawr;
  Fy enaid, bellach cwyd dy ben,
  Mae'r ffordd yn rhydd i'r nefoedd wen.

Mae Iesu Grist o'n hochr ni,
Tywalltodd ef ei waed yn lli;
  Trwy rinwedd hwn fe'n dwg yn iach
  I'r ochr draw 'mhen gronyn bach.

                - - - - -

Newyddion brâf a ddaeth i'n bro -
A haeddent gael eu dwyn ar go' -
  Mae Iesu wedi cario'r dydd,
  Caiff carcharorion fynd yn rhydd.

Mae Iesu Grist o'n hochr ni,
Tywalltodd ef ei waed yn lli;
  Trwy rinwedd hwn fe'n dwg yn iach
  I'r ochr draw 'mhen gronyn bach.

Plant dynion, codwch lawen lef,
Â'ch holl eneidiau ato ef,
  Mewn pur ganiadau yn gytûn,
  I foli Prynwr, Duw a Dyn.      [DJ]

Angylion â'ch telynau dewch,
Eich peraidd dannau uchaf trewch,
  A holl drigolion
      nef a llawr,
  I seinio mawl ein Brenin mawr. [DJ]

Gogoniant byth a fo i'r Tad,
A boed gogoniant i'r Mab rhad
  A gododd o ddyfnderau'r bedd;
  Gogoniant byth i Ysbryd hedd.
John Dafydd 1727-83

priodolwyd hefyd i
William Williams 1717-91

Tonau [MH 8888]:
Angelus (Johann Scheffler 1624-77)
  Avon (Henry Smart 1813-79)
Carey/Surrey (Henry Carey 1687-1743)
Duke Street (John Hatton 1710-1793)
Easter Chant (John B Dykes 1823-76)
Eaton (Zerubbabel Wyvill 1763-1837)
Eden (L Mason / T B Mason)
Ernan (L Mason 1792-1872)
Festus (Freylinghausen's Gesangbuch 1704)
Gilead/Samson (Bristol Tune Book 1863)
Hursley (Katholisches Gesangbuch c.1774)
Luther (Gesangbuch Klug)
  Newport (<1835)
New Sabbath (Isaac Smith 1734-1805)
Rockingham (Edward Miller 1731-1807)
St Mark (J D Jones 1827-70)
Winchester (B Crasselius 1650-90)
Yr Hen Ganfed (Sallwyr Genefa 1551)
hefyd:
Lasst Uns Erfreuen / Haleliwia (alaw Ellmynaidd)
    gyda'r Halelwia
Newyddion Braf / Happy Day (Ron Jones)
    gyda cytgan: "O llawenhawn, cydlawenhawn ..."
      gan Elfed Lewys 1934-99

gwelir:
  Dal fi fy Nuw dal fi i'r làn
  Dowch addewidion dowch yn awr
  Gwna ni fel halen â Dy râs
  I [D'wysog / Frenin] y goleuni glân
  Molianwn Iôr can's hyfryd yw
  O Arglwydd gwna fi'n golofn gre'
  O Deued dydd yr India i ben
  O na foed ardal cyn bo hir
  'Rym yn dy erfyn Arglwydd mawr
  Wel f'enaid bellach c'od dy ben

(The Prisoners Free)
 
Good news has come to our region,
It is worthy to be brought to mind
  Jesus has carried the day,
  Prisoners may go free.

+ chorus by Elfed Lewys 1934-99

Jesus Christ is of our side,
He shed his blood as a stream;
  Through his merit he will lead us whole
  To the far side after a little while.

See, my soul, now raise thy head,
The way is free to the blessed heavens;
  All our enemies are now
  In chains by the great King.

Let North, South, and far East, come
To hear the better news;
  And let the mention of saving grace go,
  As a circle around the blue-green earth.
::
- - - - -
 
Good news has come to our region,
It is worthy to be brought to mind
  Jesus has carried the day,
  Prisoners may go free.

Jesus Christ is of our side,
He shed his blood as a stream;
  Through his merit he will lead us whole
  To the far side after a little while.

See, my soul, sometimes raise thy head,
The way is free to the bright heaven;
  All our enemies are now.
  In chains by the great King.

My Jesus I would love henceforth more
Who suffered for me a mortal wound;
  My particular Redeemer he is still,
  And my best friend in the world.

Come as it may, he will love me still
Under every kind of
      tribulation in the world,
  In black death and the coming judgment.
  He will love me to a distant eternity.

When the stars fall like fresh figs,
When the sea boils, when the land burns,
  When the sun and the moon turn black,
  At this time my dear
      Redeemer will love me.

While I roam this earth,
Put thy peace like a river
    beneath my breast;
  And at the end give thy hand,
  To lead me into the distant heavens.
Jesus has :: That Jesus has :: That Jesus has
::
Who suffered :: He suffered
::
::
- - - - -
Good news has come to our region That is worthy to be brought to mind, Jesus has carried the day Prisoners get to go free. Jesus Christ is on our side, He shed his blood as a stream; Through his merit he will lead us whole, To yonder side after a little while. See, my soul, now raise thy head The way is clear to bright heaven; Our enemies are all now In chains by the great King. A new way he made, to deliver us From falling down to black hell; He opened it when he rent the curtain, All the golden portals of bright heaven. To praise his sacred name let earth below and heaven unite; Let his holy gospel go throughout the world, And all be filled with his precious love.
- - - - -
 
Good news has come to our region,
That is worthy to be brought to mind,
  That Jesus has gained the day;
  Prisoners get to go free.

Against him arose
The earth, hell, yes, and heaven;
  But stand did our precious Redeemer,
  Under the extreme wrath of all of these.

All our enemies are now
In chains by our great Redeemer;
  My soul, henceforth raise thy head,
  The way is free to bright heaven.

Jesus Christ is on our side,
He poured out his blood as a flood;
  Through his merit he will bring us safely
  To yonder side in a little while.

                - - - - -

Good news has come to our region -
That is worthy to be brought to mind -
  That Jesus has gained the day,
  Prisoners get to go free.

Jesus Christ is on our side,
He shed his blood as a stream;
  Through his merit he will lead us whole,
  To yonder side after a little while,

Ye children of men, raise a cheerful cry,
With all your souls unto him,
  In pure songs in agreement,
  To praise a Redeemer, God and Man.

Ye angels with your harps come,
Strike your sweet, loudest strings,
  And all ye inhabitants
      of heaven and earth,
  To sound the praise of our great King.

Glory forever be to the Father,
And let glory be to the gracious Son
  Who rose from the depths of the grave;
  Glory forever to the Spirit of peace.
tr. 2009,20 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~