Ni allodd angau du
Nid allodd angau du
Nis gallodd angau du

1,2,(3,(4,5,6,7));  1,2,4,6,7;  1,2,5;  1,(4,5),6,7;  1,(6),7,5.
Ni allodd angau du
  Ddal Iesu'n gaeth
Ddim hwy na'r trydydd dydd –
  Yn rhydd y daeth;
Ni ddelir un o'i blant
  Er mynd i bant y bedd,
Fe'u gwelir ger ei fron
  Yn llon eu gwedd.

Wrth wel'd yr angau du,
  Yn nesa'n awr,
'Rwy'n ofni amhell dro,
  Wrth gofio'r awr;
Pan gwelwy'r gwaith trwy ffydd,
  Y trydydd dydd wnaeth Duw;
Mae ngobaith yn f'wy cry',
  Do'i fynu'n fyw.

Fe genir cyn bo hir
  Yn glir ei glod:
Rhyfeddu'r cariad fydd
  Y dydd sy'n d'od:
Dadseinir "Iddo Ef"
  Yn lân gan nefol lu;
Mynegant rinwedd gwaed
  Y Ceidwad cu.

Pan fu fy Arglwydd mawr
  Yn llawr y bedd,
Cynnesodd wely i mi
  Rhag oeri'm gwedd;
Yn rhydd, ryw ddydd a ddaw,
  Rhowch fi â'ch llaw'r un lle;
'Rwy'n caru, er yn wan,
  Y fan bu fe.

Er gorwedd yn y bedd,
  Fy annedd fud,
Daw'r Iesu i'm codi'n llon
  Gerbron ryw bryd:
A'm llygaid i a'i gwêl -
  Mae'r gair dan sêl yn wir -
Ar newydd ddedwydd ddydd,
  Boredydd clir.

O Dduw, dod imi ffydd,
  Bob dydd o'r daith
Weld Seion yn nesáu
  Dros fryniau maith:
Yn Ben mae yno'n byw
  Fy Iesu'n Dduw a dyn
Fu yma'n wael ei wedd
  Mewn bedd ei hun.

Dy gwmni i ddwyn y groes
  O moes i mi;
Er gwaethaf angau a'i frad
  Ein Tad wyt ti;
Ac er fy rhoi'n y llwch
  Mewn t'wyllwch dros ryw bryd,
Ni'm cleddir o'i ŵydd e'
  Mewn lle'n y byd.

[Ei gwmni i ddwyn y groes
   Drwy f'oes im fydd,
 A'i gwmni yn y glyn
   Ar derfyn dydd;
 Ac er fy rhoi'n y llwch
   Mewn twyllwch dros ryw hyd,
 Ni'm cleddir o'i ŵydd e'
   Mewn lle'n y byd.]
Ni allodd :: Nid allodd :: Nis gallodd
gwelir :: casglir
gorwedd yn y ::        
        huno 'n llwch y
        pydru y'ngwaelod
Fy annedd fud ::        
        Bro farwaidd, fud
        Yn farwedd fud
A'm llygaid i :: A'm llygaid innau

William Ellis (Gwilym ab Elis) 1752-1810

Tonau [6464.6664]:
Broncairo (J T Rees 1857-1949)
Liverpool (John Roberts 1822-77)
Penygroes (H J Gauntlett 1806-76)
Oswestry (<1875)
Siloah (alaw Gymreig)

gwelir:
  Daeth ffrydiau melys iawn
  Fe gymerth Iesu blaid
  Fel Oen arweiniwyd Ef
  Pan fu ein Harglwydd mawr

Bitter death was not able
  To hold Jesus captive
Any longer than the third day -
  Free came he;
Nor to be held is any of his children
Though going off to the grave,
They are to be seen before him
  In their joyful state.

On seeing the black death,
  Approaching now,
I am fearing now and again,
  On remembering the hour;
When I shall see the work through faith,
Of the third day that God did;
My hope is more strong,
  That I shall come up.

To be sung before long
  Clearly is his praise:
Wondering at the love shall be
  The day that is coming:
"Unto Him" is to be resounded
  Completely by a heavenly host;
They shall express the merit of the blood
  Of the dear Saviour.

When my great Lord was
  On the flood of the grave,
He warmed a bed for me
  Against the chilling of my countenance;
Free, some day to come,
  Give me with your hand the same place;
I love, although weakly,
  The place he was.

Although lying in the grave,
  My mute dwelling,
Jesus will come to raise me cheerfully
  Before some time:
And my eyes will see him -
  The word under a seal is true -
On a new happy day,
  A bright morning.

O God, give me faith,
  Every day of the journey
To see Zion nearing
  Across the vast hills:
At the destination there lives
My Jesus our God and man
Who was here in his base condition
  In a grave himself.

Thy company to bear the cross
  O give to me;
Despite death and its treachery
  Our Father art thou;
And though I am laid in the dust
In darkness for some time,
I will not be buried from his sight
  In a place in the world.

[His company to bear the cross
   Will be mine throughout my life,
 And his company in the valley
   At the end of the day;
 And though I am laid in the dust
 In darkness for some length of time,
 I will not be buried from his sight
   In a place in the world.]
::   ::
to be seen :: to be gathered
lying in the ::        
        sleeping in the dust of the
        decaying in the bottom of a
My mute dwelling ::        
        A deathly, mute vale
        Deathly mute
::

tr. 2009,19 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~