Na foed fy mywyd bellach mwy Yn eiddo i mi fy hun; Ond treulier fy munudau i gyd Yn glod i'm Harglwydd cun. Darfydded dydd, darfydded nos, Fel mynyd fach o'r awr; Tra b'wyf yn caru, a rhoi fy mhwys, Ar fynwes f'Arglwydd mawr. Dymunwn yma dreulio'm hoes, O foreu hyd brydnawn, Lle cawn i wylo cariad pur, Yn ddagrau melus iawn. O! na allwn rodio er ei glod, Ac iddo bellach fyw; A phob anadliad fyn'd i maes, I ganmol gras fy Nuw.
Tonau [MC 8686]: gwelir: Boed dyoddefiadau pur y groes Darfydded dydd darfydded nôs Darfyddwn son am bleser mwy Iesu sy'n fwy na'r nef ei hun Mae durtur yr efengyl fwyn Ni(s g)all angylion pur y nef Ni feddaf ar y ddaear lawr O deffro'n fore f'enaid gwan Os edrych wnaf i'r dwyrain draw |
May my life henceforth be no more Belonging to me myself; But my minutes are all to be spent In praise to my dear Lord. Let day vanish, let night vanish, Like a small minute of the hour; While I am loving, and leaning On the breast of my great Lord. I would wish here to spend my lifetime, From morning until afternoon, Where I can get to weep pure love, In very sweet tears. Oh, that I could wander for his praise, And to him henceforth live; And every breath go out, To sing praise to the grace of my God. tr. 2015 Richard B Gillion |
|