Ymddiried yn Nuw am noddfa) Na foed im' warth na g'wradwydd chwaith, Fy ngobaith wyt, fy Nuw; Yn dy gyfiawnder gwared fi, A'm cri o'r nefoedd clyw. Tro attaf, Iôr, dy glust ar frys, O'th nefol lŷs i lawr; Bydd imi'n gadarn graig yn siwr, A thŵr i'm cadw'n awr. Fy nghastell cryf o hyd, a'm craig, Rhag llid y ddraig wyt ti; Er mwyn dy enw mawr dilŷs, Tra fyddwyf tywys fi. Fy yspryd ddodaf yn dy law, Tra fo im' fraw na chûr; Ti'm prynaist i, fel byddwn byw, O Dduw'r gwirionedd pur.Casgliad o Salmau a Hymnau (Daniel Rees) 1831 [Mesur: MC 8686] gwelir: Rhan II - Mor fawr yw'r gwynfyd gedwi fry |
Trusting in God for refuge) Let me get no scorn nor shame either, My hope art thou, my God; In thy righteousness deliver me, And my cry hear thou from heaven. Turn to me, Lord, thy ear quickly, Down from thy heavenly court; Be to me a firm, sure rock, And a tower to keep me now. My strong castle always, and my rock, Against the wrath of the dragon art thou; For the sake of thy great, unfailing name, While ever I am, lead thou me. My spirit I put in thy hand, While I have terror or pain; Thou didst redeem me, that I might live, O God of the pure truth.tr. 2018 Richard B Gillion |
|