Nesau, er er gwae rhai euog, mae 'r dyd'd cymmylog mawr, Cyfodir oll y meirw, sy'n bridd a lludw, o'r llawr; Trŷ'r oen yn llew dychrynllyd, pan ddelo'r tanllyd ddydd, A thirion Faban Bethl'em yn Farnwr mawr a fydd! Canfyddir ar ei orsedd mewn mawiedd wir Fâb Mair, Dau deulu'r byd didolir, dewisir â dau air: I fynu daw'r cyfiawnion, wrth wrando'n dirion - dewch! Rhaid i'r rhai diras cyndyn Oll deulu gydag - ewch! Ar ddiwrnod mawr ofnadwy a dychrynadwy'n Iôr Bydd daear yn ymrwygo, a mellt yu lleibio'r môr; Y sêr, fel ffigys irion, yn cwympo i'r eigion mawr, A'r dyn annuwiol ynfyd yn welw ei bryd yn awr! Yr holl uchelfrig dyrau, a'r llysoedd têg eu gwawr, A themlau'r difrifolion, ïe'r feithgron ddaear fawr; Ac oll a'i hetifeddant a doddant mewn un dydd; Mwy na ffug-adail breuddwyd, un rhith o'u hôl ni bydd!Corph y Gaingc 1810 (Dydd y Farn) 1,(2),4; 1,3,4. Nesâu, er gwae'r annuwiol, Mae'r dydd diweddaf mawr; Nesâu, er gwynfyd bythol I'r cyfiawn, mae bob awr: I'r naill yn gyfiawn Farnwr, Pan ddelo'r tanllyd ddydd, I'r llall yn llon Waredwr, Yr Oen fu farw fydd. Y dydd y gwelir Iesu Ar orsedd fawr y nen, Yr haul ni rydd oleuni, Fel gwaed â'r lleuad wen: Holl ser y nef a syrthiant Fel mellt i'r eigion mawr; Y môr ai donnau ruant, Ar dân bydd daear lawr. Bydd myrdd o ryfeddodau Ar doriad bore wawr, Pan ddelo plant y tonau Yn iach, o'r cystudd mawr, Oll yn eu gynau gwynion, Ac ar eu newid wedd, Yn debyg i eu HARGLWYDD Yn dôd i'r lan o'r bedd. O Iesu, gwrando'n gweddi Tra paro dydd dy ras; Rho'th wir adnabod ini Cyn llosgo'n lamp i maes: Rho lwyr faddeuant pechod, Dy YSPRYD, a dy hedd; Fel codom i'th gyfarfod Yn llawen iawn o'r bedd.1: Corph y Gaingc 1810 2: Casgliad o Salmau a Hymnau (Daniel Rees) 1831 3: J Gwyndud Jones 1831-1926 4: Casgliad o Salmau a Hymnau (Daniel Rees) 1831
Tonau [7676D]: gwelir: Bydd myrdd o ryfeddodau |
Nearing, for the woe of guilty ones, is the great cloudy day, To be raised are all the dead, who are in soil and ashes, from the ground; The lamb shall turn into a terrible lion, when the fiery day comes, And the tender Baby of Bethlehem a great Judge shall be! To be found on his throne in majesty is the true Son of Mary, Two families of the world are to be separated, chosen with two words: Up shall come the righteous, on hearing tenderly - come! The graceless, stubborn ones must all leave with - go! On the great, terrible and fearsome day of the Lord The earth shall rend, and lightening swallow the sea; The stars, like fresh figs, falling into the great ocean, And the ungodly, foolish seeing his time now! All the haughty towers, and the courts of fair brightness, And the temples of the solemn ones, yes, the vast round earth; And all they shall inherit and put in one day; Any more than a folly of a dream, not one illusion shall remain. (The day of judgment) Nearing, for the woe of the ungodly, Is the great last day; Nearing, for everlasting blessedness For the righteous, it is every hour: To the one as righteous Judge, When ever the fiery day come, To the other as cheerful Deliverer, The Lamb who was dead shall be. The day Jesus is to be seen On the great throne of the sky, The sun will not give light, Like blood will go the white moon: All the stars of heaven shall fall Like lightning into the great ocean; The sea and its waves shall roar, On fire shall be the earth below. There will be a myriad of wonders At the break of the morrow's dawn, When the children of the waves come Saved from the great tribulation, All in their white robes And transfigured, Like unto their LORD Coming up from the grave. O Jesus, listen to our prayer While ever the day of thy grace endures; Grant us true knowledge of thee Before the lamp burns out: Grant complete forgiveness of sin, Thy SPIRIT, and thy peace; Thus shall we rise to meet thee Very joyfully from the grave.tr. 2015 Richard B Gillion |
|