Nesawn, nesawn Mewn myfyrdodau pur, At fwrdd ein Harglwydd, I gydgofio'i gur; A rho'ed y Brenin Mawr ar hyn o bryd Ei ŵyneb hoff, Tra byddom yma 'nghyd. O! am gael ffydd I gydfwynhau y wledd, 'Does neb o'i bath I'w chael tu yma i'r bedd; Y cariad mawr, A unodd Duw a dyn, Sy yma'n awr, Yn gwneyd y saint yn un. Diolchwn am Y portreadau hyn, I droi'n myfyrdod I Galfaria fryn; Coffawn y dryllio Mawr dan wg y ne' - Coffawn y gwaed, Dywalltwyd yn ein lle. [Diolch a wnawn Am yr arwyddion hyn I droi ein meddwl At yr Iesu gwyn; Coffawn yr aberth Mawr a wnaeth efe, Coffawn y gwaed, Dywalltwyd yn ein lle.] Pwy all anghofio'r Cwpan rhyfedd iawn, O soriant Duw Ac uffern dỳn yn llawn? "Y cwpan hwn" A yfodd Crist o'i fodd, A nef i ni Drwy hyn a barotôdd. Ymwystlwn oll I'n Brenin, o un fryd, I ddwyn y groes Gan herio gwawd y byd; Na chaed ein Harglwydd Un yn gwisgo rhith Na hunan dwyllwr Yma yn ein plith. O nerth i nerth, Yr awn mewn newydd hwyl, Nes d'od yn nghyd At fwrdd y nefol ŷyl: O! ddedwydd saint Ymlonnwch yn gytûn, Os da yw hyn, Beth fydd y nef ei hun? 'Does neb :: 'Does un Sy yma'n awr :: Sydd yma nawr William Ambrose (Emrys) 1813-73
Tonau [10.10.10.10]: |
Let us draw near, draw near In pure meditations, To the table of our Lod, To remember together his pain; And may the great King Bestow nowadays His dear face, While we are here together. O to get faith To enjoy together the feast, There is nothing of its kind To be had this side of the grave; The great love, Which united God and man, Is here now, Making the saints one. Let us give thanks for These portrayals, To turn our meditation To Calvary hill; Let us remember the great Harrowing under heaven's frown - Let us remember the blood, Poured out in our place. [Thanks let us give For these signs To turn our thought To blessed Jesus; Let us remember the great Sacrifice he made, Let us remember the blood, Poured out in our place.] Who can forget the Very wonderful cup, Of the indignation of God And fierce hell full? "This cup" Which Christ drank voluntarily, And heaven for us Through this he provided. Let us all pledge To the King, of one intent, To carry the cross Challenging the scorn of the world; May our Lord not have Anyone wearing hypocrisy Nor a self-deceiver Here among us. From strength to strength, Let us go with new enthusiasm, Until coming together To the table of the heavenly festival: O happy saints! Cheer each other in agreement, If this is good, What shall be heaven itself? :: :: tr. 2016 Richard B Gillion |
|