Newyddion braf wy'n gael, heb lai, Fod trag'wyddoldeb yn nesau; Na ddigaloned neb o'r byw, Fe dderfydd galar Seion Duw. Rwy'n cael fy nghodi lawer pryd, Uwchlaw'r cre'duriaid oll i gyd, I wel'd y wlad bar'tow'd i mi, Er cyn sylfaenu'r ddaear ddu. Fel ych i'r lladdfa daeth yr Oen, I wared f'enaid blin o'u boen; Ar ben Calfaria, yng ngwydd y byd, Fy nyled talodd oll i gyd. 'Does dim all godi f'enaid gwan, Ond golwg arno i mi'n rhan; Ei wel'd e'n marw yn fy lle, I mi gael bywyd yn y ne'. Mwy gwerthfawr im' yw hedd yr O'n, Na chyfoeth India fawr ei son; Rhyddhaodd fy enaid oedd yn gaeth, A'i waed ei hunan lawer gwaith.Morgan Rhys 1716-79 Golwg o Ben Nebo, 1764. [Mesur: MH 8888] |
Good news I am getting, no less, That eternity is approaching; Let no-one of the living lose heart, The lamenting of God's Zion will cease. I am getting raised many a time, Above all the creatures altogether, To see the land prepared for me, Before the foundation of the black world. Like an ox to the slaughter came the Lamb, To deliver my weary soul from its pain; On the summit of Calvary, in the face of the world, All my debt he paid altogether. There is nothing that can raise my weak soul, But looking on him as a portion to me; To see him dying in my place, For me to get life in heaven. More valuable to me is the peace of the Lamb, Than the wealth of India of great reputation; He freed my soul which was captive, With his own blood many times.tr. 2015 Richard B Gillion |
|