Ni [cheisia'i yn / cheisia'n] wyneb Moses

(Ymbil am faddaunt, a iachad o'r llesgedd.)
Ni cheisia'i yn wyneb Moses,
  Ond Iesu i ddadleu 'nghwyn
Y cyfiawn dros 'r anghyfiawn,
  Fu farw er fy mwyn,
Yn ymchwydd yr Iorddonen,
  Ac yn y farn a ddaw,
Dihangol yn y diwedd,
  A fyddaf yn ei law.

Dy hen addewid rasol,
  A gadwodd rif y gwlith,
O ddynion wedi eu colli,
  A gan am dani byth:
Er cael eu mynych glwyfo,
  Gan bechod is y neu,
Iacheir eu mawrion glwyfau,
  A dail y bywiol bren.

Gwasgara'r tew gymmylau,
  Oddi yma i dy fy Nhad,
Datguddia i mi beunydd,
  Yr iachawdwriaeth rad:
A dywed air dy hunan,
  Wrth f'enaid clwyfus trist,
Dy fod yn maddeu meiau,
  Yn haeddiant Iesu Grist.

Fe dderfydd i mi bechu,
  Iacheir yn lan fy nghlwy,
Ond byth ni dderfydd canu,
  Am faddeu pechod mwy:
Cāf gorph yr hen farwolaeth
  I lawr na chyfyd byth.
Ag wledd ar fynydd Seion,
  Drag'wyddol bur dilyth.

Mi gysgaf hun yn esmwyth,
  Ar fyrr yn llwch y llawr,
Yn holl-iach, wedi gorphen,
  Milwriaeth 'r Arglwydd mawr.
Heb elyn i fy mlino,
  I drag'wyddoldeb maith,
Cāf fuddugoliaeth hollol,
  Yn lan ar ben fy nhaith.

          - - - - -

Ni cheisia'n wyneb Moses
  Un ffrind i bledio ' nghwyn,
Ond Iesu'r cyfaill ffyddlon,
  Fu farw er fy mwyn:
Boddlonodd ddeddfau'r nefoedd,
  Trwy roddi perffaith iawn;
A thrwy ei waed fy haeddodd
  I'r byd anfeidrol ddawn.

Tragwyddol glod i'r Cyfiawn
  Fu farw dros fy mai,
Fe adgyfododd eilwaith
  O'r bedd i'm cyfiawnhau;
Ar orsedd ei drugaredd
  Mae'n dalu yn y ne'
Deilyngdod ei farwolaeth
  Haeddiannol yn fy lle.
Morgan Rhys 1716-79

Tonau [7676D]:
  Affrica (<1829)
Meirionydd (William Lloyd 1786-1852)

gwelir:
  Dy hen addewid rasol
  Fyth fyth rhyfedd'i'r cariad
  Pechadur wyf O Arglwydd
  Tragwyddol glod i'r cyfiawn
  Ymadaw wnaf ā'r babell

(Petition for forgiveness, and healing from infirmity.)
I will not seek in the face of Moses,
  But Jesus to argue my complaint
The righteous for the unrighteous,
  Who died for my sake,
The swelling of the Jordan,
  And in the coming judgement,
Escape in the end,
  I shall in his hand.

Thy old, gracious promise,
  Which kept the number of the dew,
Of men having been lost,
  Shall sing about it forever:
Despite their getting often wounded
  By sin beneath the sky
Their great wounds are to be healed
  With leaves from the vital tree.

Scatter the thick clouds,
  From here to my Father's house,
Reveal to me daily,
  The free salvation:
And say the word thyself,
  To my sad, wounded soul,
That thou art forgiving my faults,
  In the merit of Jesus Christ.

Sinning will end for me,
  My wound will be completely healed,
But I will never finish singing,
  About the forgiveness of sin any more:
I will get the body of the old death
  Brought down, it shall never rise,
And a feast on the mount Zion,
  Eternal, pure, unfailing.

I shall sleep a sleep easily,
  Shortly in the dust of the ground,
Wholly healthy, having finished,
  The military service of the great Lord.
With no enemy to weary me,
  For a vast eternity,
I will get a victory wholly,
  Completely, at my journey's end.

               - - - - -

i will not seek in the face of Moses
  Any friend to plead my complaint,
But Jesus the faithful companion,,
  Who died for my sake:
He satisfied the laws of heaven,
  Through giving a perfect ransom;
And through his blood he claimed
  For the world an infinite gift.

Eternal praise to the Righteous One
  Who died for my sin,
He arose again
  From the grave to justify me;
On the throne of his mercy
  He pays in heaven
The worthiness of his virtuous
  Death in my place.
tr. 2017,23 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~