Ni ddaw 'nghyfeillion [mwya' ei / mwya'u] hedd
Ni ddaw nghyfeillion têg eu gwedd

(Glan y Bedd) / (Huno yn yr Iesu)
Ni ddaw 'nghyfeillion mwya'u hedd
I'm hebrwng ond
    hyd lan y bedd;
  Tro pawb eu cefnau,
      dyma'r dydd,
  Gadawant fi'n fy ngwely pridd.

Daw i mi drannoeth
    dêg er hyn,
Caf godi fry i Sion fryn;
  Fy llwch ddaw'n llwyr
      o bridd y llawr
  Ar ddisglaer wedd fy Mhriod mawr.

O'r! modd dysgleiria'r
    corph gwael hwn
Yn anllygredig yno gwn;
  Os tebyg i gorph Iesu gwiw,
  Pa wedd disgleiria'r enaid byw!

Gorfoledd mawr fydd cyn b'o hir,
Pan uno'r corph a'r enaid pûr;
  A chwrdd yn llawen yn y ne',
  A'r Oen fu farw yn fy lle.

Na wylwch ddim, na fyddwch drist,
Am neb fydd wedi huno yng Nghrist;
  'Does yma ond y corph o glai,
  Mae'r enaid frŷ yn llawenhau!

Ac yno mae yn gwbl rydd,
Ar angeu wedi cario'r dydd;
  Heb un rhyw nychdod mwy na phoen
  Yn moli'r croeshoeliedig Oen.
mwya'u hedd :: mwya' ei hedd
               - - - - -
               1,2,(3),4.

Ni ddaw nghyfeillion têg eu gwedd
I'm hebrwng ond
    hyd lan y bedd;
  Try pawb eu cefnau,
      dyma'r dydd
  Gadawant fi'n fy ngwely pridd!

Daw imi dranoeth
    têg er hyn,
Caf godi fry i Seion fryn;
  Fy llwch ddaw'n llwyr
      o bridd y llawr
  Ar ddysglaer wedd fy Mhrynwr mawr.

O! 'r modd dysgleiria'r
    corff gwael hwn
Yn anllygredig yno, gwn!
  Os tebyg i gorff Iesu gwiw,
  Pa wedd dysgleiria'r enaid byw!

Caf yno fod yn gwbl rydd
  Ar angeu wedi cario'r dydd;
Heb unrhyw nychdod mwy, na phoen,
  Yn moli'r croeshoeliedig Oen.
John Thomas 1730-1804?
Diferion y Cyssegr 1802

Tonau [MH 8888]:
Beza (<1869)
Brynteg (J Ambrose Lloyd 1815-74)
Sebastian (Daniel Vetter / J S Bach)
Spires (Martin Luther 1483-1546)
Tiberias (<1876)
Windham (Daniel Read 1751-1836)

(The Graveside) / (Sleeping in Jesus)
No friends of greatest peace shall come
To escort me but
    as far as the edge of the grave;
  All shall turn their backs,
      this is the day,
  They shall leave me in my bed of soil.

A fair morrow shall come
    to me despite this,
I shall get to rise up to Zion hill;
  My dust shall come completely
      from the soil of the ground
  In the radiant image of my great Spouse.

O how this poor body
    shall shine
Incorruptible there I know;
  If like the body of worthy Jesus,
  O how the living soul shall shine!

There shall be great rejoicing before long,
When the body and the pure soul unite;
  And meet joyfully in heaven,
  With the Lamb who died in my place.

Weep ye not at all, be ye not sad,
For any who shall have slept in Christ;
  There is here only the body of clay,
  The soul is above rejoicing!

And there it is wholly free,
Over death having carried the day;
  Without any more sickness or pain
  Praising the crucified Lamb.
::
               - - - - -
                

My friends fair of face will not come
To escort me except
    as far as the graveside;
  All will turn their backs,
      here is the day
  They will leave me in my bed of soil!

The following fair day will
    come to me despite this,
I will get to rise above to Zion's hill;
  My dust will come completely
      out of the soil of the earth
  At the shining face of my great Redeemer.

Oh the means of shining of
    this inferior body
Incorruptibly here, I know!
  If like the worthy body of Jesus,
  What a shining face of the living soul!

There I will get to be completely free
  Over death having carried the day;
Without any more sickness, nor pain,
  Praising the crucified Lamb.
tr. 2008,24 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~