Ni(s d)dichon byd a'i holl deganau

Ni ddichon byd a'i holl deganau
  Fodloni fy serchiadau nawr,
A enillwyd, a ehangwyd
  Yn nydd nerth
      fy Iesu mawr;
Ef, nid llai, a all eu llenwi
  Er mor ddiamgyffred yw,
O am syllu ar ei Berson,
  Ffel y mae yn ddyn a Duw.

O! na chawn i dreulio 'nyddiau
  Yn fywyd o ddyrchafu ei waed;
Llechu'n dawel dan ei gysgod,
  Byw a marw wrth ei draed;
Cario'r groes, a
    phara i'w chodi,
  Am mai croes fy Mhriod yw,
Ymddifyrru yn ei Berson,
  A'i addoli byth yn Dduw.
Ann Griffiths 1776-1805

Tonau [~8787D]:
  Cilowen (Beti James a Sian Davies)
    (trefn. Rhiannon Ifan)
Dolwar (John Roberts 1822-77)
Eryl (J Morgan Lloyd 1880-?)
Esther (John Roberts [Ieuan Gwyllt] 1822-77)
Noddfa (Hugh Jones 1863-1933)

gwelir:
  Nid oes gwrthddrych ar y ddaear
  O am fywyd o sancteiddio

The world and all its trinkets cannot
  Satisfy my affections now,
Which were won, and broadened
  In the day of the power
      of my great Jesus;
He, no less, who can fill them
  Although so incomprehensible it is,
O to gaze on his Person,
  As he is as man and God.

O that I may spend my days
  In a life of exalting his blood;
Hiding quietly under his shade,
  Living and dying by his feet;
Carrying the cross, and
    continuing to raise it,
  For it is the cross of my Husband,
Delighting in his Person,
  And adoring him forever in God.
tr. 2009 Richard B Gillion
Earth cannot, with all its trinkets,

tr. H A Hodges 1905-76

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~