Ni ddylem ufuddhau

(Priodoldeb yr Ysgrythyrau)
Ni ddylem ufuddhau
  I'r pethau amlwg union,
A roddwyd byth
    i ni a'n plant,
  Hwynt yw gogoniant Seion.

Gwrthddrychau'r gair yn wir
  A fernir yn ysprydol,
O'r rhai'n nis iawn ddeallir un
  Gan enaid dyn anianol.

Fe'i cuddiodd Naf yn ol,
  Rhag cedyrn fydol ddeothion,
Dewisodd Duw ddadguddio rhai'n 
  I'r bychain a'r tylodion.

Uwchlaw amgyffred gŵr,
  Iaith y Creawdwr ydyw,
I guddio balchder rhag pob un
  Ni ddirnad dyn yr unryw.

Crynodeb cadarn yw
  Llyfr hanes Duw'r gweirionedd,
Am ansawdd, trefn,
    a threigl y byd,
  O'r dechreu hyd y diwedd.

Pob cyflawn ddoniau cair
  Yn nwyfawl Air y nefoedd,
Rhinweddau, breintiau yn ddibrin,
  Priodol i'n hysprydoedd.

Gwir gynghor Ior ei hun
  Sy'n arwain dyn yn dyner,
I'r nefoedd fry, drwy ddŵr a than,
  Yn llwybrau glân cyfiawnder.

Nyni sydd yn mwynhau
  Yr Ysgrythyrau sanctaidd,
Na thrown at ofer sain y byd
  A'i chwedlau ynfyd gwrachaidd.

Na cheisiwn drin yn chwith,
  Mewn tywyll na
      rhith cybydd-dod,
Ac na wyrdröwn mo air y ffydd,
  Ein barnwr fydd rhyw ddiwrnod.

Gwae hwnw wnel leihau
  Gair y ddiau addewid,
Nac a chwanego ddim ychwaith
  At berffaith gyfraith rhyddid.

Llafuriwn well-well, fwy,
  Fwy yn a thrwy'r athrawiaeth;
Gair Ior, a'i
    drysor mawr diri',
  A fyddo'n etifeddiaeth.
1810 Dafydd Owen (Dewi Wyn) 1784-1841

[Mesur: MBC 6787]

(The Propriety of the Scriptures)
We ought to obey
  The things directly obvious,
Which are given forever
    to us and our children,
  They are the glory of Zion.

The objects of the word truly
  Are to be judged spiritually,
Of them not one is to be understood aright
  By the soul of natural man.

The Lord hid them back
  From the strong worldly wise,
God chose to reveal those
  To the children and the poor.

Above the grasp of man,
  The language of the Creator is,
To hide pride from every one
  Man shall not comprehend a single one.

A firm compendium is
  The book of the God of truth's story,
About the nature, arrangement
    and running of the world,
  From the beginning until the end.

All full gifts are to be had
  In the divine Word of heaven,
Virtues, privileges unstinting,
  Appropriate for our spirits.

The true counsel of the Lord himself
  Is leading man tenderly,
To heaven above, through water and fire,
  In the holy paths of righteousness.

And we too who are enjoying
  The holy Scriptures,
Let us not turn to the world's vain sound
  With its foolish, old wives' tales.

Let us not try to treat wrongly,
  In darkness or the
      delusion of covetousness,
And let us not pervert the word of faith,
  Our judge it shall be some day.

Woe to him who makes light of
  The word of the doubtless promise,
Or adds anything either
  To the perfect law of freedom.

Let us labour better and better, more
  And more in and through the teaching;
The word of the Lord, with its
    great, numberless treasure,
  Shall be our inheritance.
tr. 2017 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~