Ni feddaf ar y ddaear lawr, Ni feddaf yn y ne', Neb ag a bery'n anwyl im', Yn unig ond efe. Mae ynddo'i hunan drysor mwy, Nag fedd yr India lawn; Fe brynodd i mi fwy na'r byd, Ar groesbren un brydnawn. Fe brynodd imi euraidd wisg, Trwy ddyoddef marwol glwy'; Ei angau Ef a guddia'm gwarth I dragwyddoldeb mwy. Darfydded dydd, darfyded nos, Fel mynyd fach o'r awr, Tra b'wyf yn caru, a rhoi 'mhwys Ar fynwes f'Arglwydd mawr. Dymunwn yma dreulio'm hoes, O foreu hyd brydnawn, Lle cawn i wylo cariad pur Yn ddagrau melus iawn. O na allwn rodio er ei glod, Ac iddo bellach fyw; A threulio mywyd gyd â blas, I ganmol gras fy Nuw. ddaear lawr :: ddaear fawr :: ddaiar fawr threulio mwywyd gyd â blas :: phob anadliad fyn'd i maes
Tonau [CM 8686]:
gwelir: |
I possess nothing on the earth below, I possess nothing in heaven, No-one either who will remain dear to me, Except him alone. In him himself is treasure more, Than full India possesses; He purchased for me more than the world, On the wooden cross one afternoon. He purchased for me golden clothing, Through suffering a mortal wound; His death will hide my shame To eternity henceforth. Let day vanish, let night vanish, Like a small minute of the hour, While every I am loving, and lean On the breast of my great Lord. I would desire here to spend my lifetime, From morning until evening, When I get to weep pure love In very sweet tears. O that I might travel for his praise, And for it further live; And spend all my life with a taste, To praise my God's grace. earth below :: great earth :: great earth spend all my life with a taste :: every breath go out tr. 2009,16 Richard B Gillion |
|