Ni feddyliais fod fy siwrnai Trwy lifeiriant oedd mor gryf, A bod afon ar ol afon, Heb un diwedd, heb un rhif: Yn eu canol 'Rwyf yn gwel'd yr ochr draw. Mi orchfyga'r tonnau mawrion Er eu cynnwrf, er eu st&373;r; Yn lle'm suddo i'r dyfnderoedd Caf fy ngolchi gan y d&373;r; Mi ddof allan, Tua'r nefoedd mae fy nhaith. Nid oes drwg cael fy nghystuddio Lle bo cystudd i mi'n well; Rhaid trwy'r anial i mi deithio Cyn cael meddu'r Ganaan bell: Wrth y cleddyf Dof i feddu tir fy ngwlad. 'Rwyf yn caru'r pererinion Ar y tylau serth y sy, Ar eu traed ac ar eu dwylaw, 'N ceisio dringo i fyny fry; Ar fy neulin Minnau ddof i ben y bryn.William Williams 1717-91
Tonau [878747]: gwelir: Mae gelynion i mi'n chwerw 'Rwyf yn caru'r pererinion |
I did not think that my journey would be Through a torrent which was so strong, And that there would be river after river, Without any end, without any number: In their midst I can see the far side. I shall overcome the great waves Despite their tumult, despite their uproar: Instead of my sinking into the depths I will get washed by the water; I shall come out, Towards the heavens is my journey. No evil can afflict me Where affliction is better for me; It is necessary for me to travel through the wilderness Before I get to possess the distant Canaan: By the sword I shall come to possess my land. I love the pilgrims On the steep hills who are, On their feet and on their hands, Attempting to climb up above; On my knees I too may come to the top of the hill.tr. 2013 Richard B Gillion |
|