Ni fedr tafod mewn yn modd

(Iachawdwriaeth yn Nghrist yn unig - Rhan II)
Ni fedr tafod mewn yn modd
I ddodi'th râs i maes ar g'oedd,
Nac anfeidroldeb maith Dy rôdd,
  Dy gariad a Dy hedd.

Pe deuai'r saint o'u bron i gyd,
Sy'n canu'n awr mewn nefol fyd,
Nis gallent fyth i draethu 'nghyd
  Mor deced yw Dy wedd.

Ti roddaist ynof'n awr yn nglỳn
Egwyddor nefol bur ei rhîn, 
Fel nad oes dim ond Ti Dy Hun
  Fyth bellach wrth fy modd.

O! tyred, Arglwydd, tyr'd yn glau,
Gâd imi bellach Dy fwynhau,
Ateba'r duedd bur ddi-drai
  A roddaist imi'n rhôdd.

Os unrhyw eilun yn y byd
A gais ryw loches yn fy mryd,
Mi a'u ffieiddiaf hwy i gyd, -
  Mi'th garaf Di Dy Hun.
William Williams 1717-91

Tonau [8886]:
    Elmhurst (Edwin D Drewett 1850-1924)
    Just as I am (John Stainer 1840-1901)
    Leeds (Lowell Mason 1792-1872)
    Misericordia (Henry Smart 1813-79)

gwelir: Rhan I - Tyr'd Iesu help fi gario'r maes

(Salvation in Christ alone - Part 2)
No tongue can by any means
Set forth thy grace publicly,
Nor the infinite extend of Thy gift,
  Thy love and Thy peace.

If all the saints altogether were to come,
Who are singing now in a heavenly world,
They could never expound together
  How fair is Thy countenance.

Thou gavest to me now in the vale
A heavenly principle of pure virtue,
Such that nothing but Thou Thyself
  Shall ever henceforth satisfy me.

O come, Lord, come quickly!
Let me henceforth enjoy Thee,
Answer the pure, unebbeing tendency
  Thou gavest me as a gift.

If any idol in the world
Should seek some place in my mind,
I shall detest them all, -
  I shall Thee Thyself.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~