Ni ffurfiodd Ior greadur byw

(Gogoniant Dyn)
Ni ffurfiodd Ior greadur byw
Yn ol ei ddelw, anwyl Dduw,
  Ond dyn yn unig, dan y nef,
  I debygoli iddo ef.

Pan y gorphenodd Duw ei waith,
Y tir, y môr, a'r nefoedd faith;
  Gosdodd ddyn fel unig ben,
  Ar bob creadur îs y nen.

Addurnodd y Creawdwr ef,
O'i dyner nawdd
    â doniau'r nef,
  I draethu glân tragwyddol glod
  I'w nefol annherfynol Fôd.
Cas. o Hymnau ... Wesleyaidd 1844

Tôn [MH 8888]: Hereford (Samuel Sebastian Wesley 1810-76)

gwelir: O cydnabydded dynol-ryw

(The Glory of Man)
The Lord made no living creature
After his image, beloved God,
  But man alone, under heaven,
  To resemble him.

When God finished his work,
The land, the sea, and the vast heavens;
  He placed man as an only head,
  Over every creature under the sky.

The Creator adorned him,
From his tender protection
    with the gifts of heaven,
  To expound holy, eternal praise
  To his heavenly, boundless Being.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~