Ni gofiwn y gwaed, A'r cymod a gaed I godi pechadur Am byth ar ei draed; Er garwed y loes, A dirmyg yr oes, Mae'r nef yn y golwg Yn ymyl y Groes. Ni gofiwn y bryn A ddringwyd yn wyn, Gan ddwyfol Etifedd Y nefoedd cyn hyn; O'i ddilyn yn wir, Yr aflan yn glir A olchir yn wynach Na'r eira cyn hir. Ni gofiwn yr Oen, Â drodd yn Ei boen Yr anial dy-fywyd Yn wynfys a hoen; Mae'r ffordd ar ei hyd Yn gariad i gyd, A bywyd yn oleu, Ar feddau y byd. Ni gofiwn yr Iawn A dalwyd yn llawn, A chanu yn ngwyneb Cyfiawnder a wnawn; Ni dderfydd ein llef, O fawl iddo Ef, Yn wynion ein gynau Ynghanol y nef.Evan Rees (Dyfed) 1850-1923 Tôn [5565D]: Cysur (Thomas Price 1809-92) |
We remember the blood, And the reconciliation that was got To raise a sinner Forever to his feet; Despite how rough the anguish, And the scorn of the age, There is heaven in view Beside the cross. We remember the hill Which was climbed in white, By the divine Heir Of heaven before this; From following him truly, The unclean clearly Is to be washed whiter Than the snow before long. We remember the Lamb, Who turned in his pain The lifeless desert Into blessedness and liveliness; The road along its length Is all love, And life is light, On the graves of the world. We remember the Ransom That was paid in full, And sing in the face Of righteousness we shall do; Never let fade our cry Of praise unto Him, White our robes In the middle of heaven.tr. 2017 Richard B Gillion |
|