Ni huna dy Geidwad Gan ludded yn flin; Mae'r Haul yn Ei lygad A gras ar Ei fin; Er gwaethaf dy elyn Cyflawnir dy raid; Pwy saif yn dy erbyn A Duw o dy blaid? Hyfrydwch dy Geidwad Yw gwylio dy droed; Mae gofal Ei gariad Am danat erioed; Yn oriau dy adfyd I'th ymyl y daw: Ni chollir dy fywyd Moes iddo dy law. Ti eilli'n dy ludded Orffwyso mewn hedd, Ni ddigwydd it' niwed Gan angau na bedd; Ymgasgled byddinoedd Y fagddu ynghyd, Cei Arglwydd y lluoedd Yn darian o hyd.Evan Rees (Dyfed) 1850-1923 [Mesur: 6565D] |
Thy Saviour does not sleep By fatigue exhausted; The Sun is in His eye And grace on His lip; Despite thy enemy Thy need is to be fulfilled; Who will stand against thee With God on thy side? The delight of thy Saviour Is to watch thy feet; The care of His love is Around thee always; In the hours of thy adversity To thy side He comes: Thy life is not to be lost Give Him thy hand. Thou shalt be able in thy fatigue To rest in peace, No harm will happen to thee From death nor grave; Let armies assemble The pitch-blackness together, Thou wilt get the Lord of hosts As a shield always.tr. 2015 Richard B Gillion |
|