1,2,3; 1,2,4,5,6; 1,2,(4,7); 1,2,8. Ni phery ddim yn hir, Y ddu dymhestlog nos, Ni phwyntiwyd oesoedd maith, I neb i gario'r groes: Mae'r hyfryd wawr, sy'n g'leuo draw, Yn d'weyd fod bore braf gerllaw. Mi wela'r cwmwl du, Yn awr y'mron a ffoi, A gwynt y gogledd sy, Ychydig bach yn troi; 'Nol tymhestl fawr, daw yn y man, Ryw hyfryd hîn ar f'enaid gwan. Mi welaf oleu'r haul Ar fryniau 'r nefol wlad, Yn dangos imi sail Fy ngobaith am ryddhad; Fy enw sydd ar lyfrau'r nef, Ac nid oes a'i dilëa ef. Noddfa pechadur trist, Tan pob drylliedig friw, A phwys enogrwydd llym, Yn unig yw fy Nuw: 'Does enw i'w gael o dan y nef, Yn unig ond ei enw ef. O na allwn roddi 'mhwys, Ar dy ardderchog law, A gado i gystudd ddod, Oddiyma ac o draw: A byw tan nawdd y dwyfol waed, Y'ngolwg hyfryd dŷ fy Nhad. O ffynnon fawr o hedd, O anchwiliadwy fôr! Sy'n cynnwys ynddo ei hun, Ryw annherfynol stôr: Bydd miloedd maith yn canu'n llon, Drag'wyddol anthem ger ei fron. Mae'm siwrna'i yn y blaen, 'Does diwedd ar fy nhaith, Nes landio mewn yn lân I dragwyddoldeb maith; Yr ochr draw fy nghartref yw O fewn y wlad lle mae tŷ Nuw. Melusach tŷ fy Nhad, Ar ol y 'storom fawr; Po fwya'r croesau gaed, Mae'n hawsach gado'r llawr: O hyfryd wel'd fydd yn y man, Pob bryn a ddringais i i'r lan. 1,2,(3). Ni phery ddim yn hir, Yn ddû dymhestlog nos, Ni threfnwyd amser maith, I neb i gario'r groes; Mae'r hyfryd wawr, sy'n tori draw, Yn d'weyd fod bore brâf gerllaw. Â heibio'r dywell nos, Fe ffŷ cymylau'r nen, Fe ddaw'r addewid wir A'r geiriau pur i ben; Ceir gwel'd, ceir gwel'd yr hyfryd dir Ar fyr o dro yn oleu, glir. Mi welaf oleu'r haul Ar fryniau Tŷ fy Nhad; Yn dangos i mi sail Fy iachawdwriaeth rad - Fod f'enw fry ar lyfrau'r nef, Ac nod oes a'i dilëa ef. Pan gwyd yr haul, mewn goleu clir
Tonau [12.12.8.8]:
Gwelir: |
It will not continue long, The black tempestuous night, It is not appointed for long ages, To anyone to carry the cross: The lovely dawn, which is lighting yonder, Is saying that a fine morning is at hand. I see the black cloud, Now before me flee, And the north wind which, In a little while will turn; Behind a great tempest, will come soon, Some lovely weather on my weak soul. I see the light of the sun On the hills of the heavenly country, Showing to me the basis Of my hope for freedom; My name is on the books of heaven, And there is none that shall delete it. The refuge of a sad sinner, Under every crushing bruise, And the weight of sharp guilt, Is my God alone: There is no name found under heaven, But his name alone. O that I might lean, On thy excellent hand, Which keeps affliction from coming, From near and from far: And live under the protection of the divine blood, The lovely sight of my Father's house. O great fount of peace, O unsearchable sea! Which includes within himself, Some unending store: Vast thousands shall be singing cheerfully, An eternal anthem before him. My journey is ahead, There is no end to my travel, Until I land in on the shore To vast eternity; On the other side my home is Within the land where my Father's house is. Sweetest house of my Father, After the great storm; However great the crosses had, It is easier to leave the earth: O delightful to see what shall be soon, Every hill I have climbed up. It will not continue long, As a black tempestuous night, It is not arranged for a time, For anyone to carry the cross: The lovely dawn, which is breaking yonder, Is saying that a fine morning is at hand. The dark night is passing, The clouds of the sky are fleeing, Coming is the true promise And his pure words to be; It may be seen, it may be seen the lovely land And soon to come light and clear. I see the light of the sun On the hills of my Father's house; Showing me the foundation Of my free salvation - That my name is on the books of heaven, And there is none that shall delete it. When the sun rises, in clear light tr. 2009,21 Richard B Gillion |
It shall not long remain, This dark tempestuous night; Not long doth Christ ordain, To bear the cross, and fight: Behold the herald Dawn appear, Auspicious morn is drawing near.tr.1854 Joseph Morris
|