Ni(d) all angylion pur eu dawn (Fynegu byth dy clod yn llawn)

(Addoli yn Fraint) / (Moliant yn fraint)
Ni all angylion pur eu dawn
Fynegu byth dy glod yn llawn;
  Ond O mor wael y mawl a'r bri
  A gān marwolion fel nyni! 

Diderfyn glod a moliant sy
Yn llenwi'r holl ardaloedd fry:
  I'r ogoneddus dorf ddiri',
  O mor annhebyg ydym ni!

Braint i droseddwyr gwael eu rhyw
Yw cael addoli'r bywiol Dduw:
  Rhyfeddod fod ein Harglwydd hael
  Yn derbyn ein haddoliad gwael!

Pan fo tiriondeb Un yn Dri
Yn hyfryd wenu arnom ni,
  Cawn ar ei air ryw newydd flas,
  A molwn ef fel Arglwydd gras!
Ni all :: Nid all
Braint i ... Yw cael ... :: Ni blant ... Yn cael
bywiol :: unig

Caniadau Y Cysegr 1855

Tonau [MH 8888]:
Hereford (hen alaw Eglwysig)
Winchester (New) (Musicalisch Hand-Buch 1690)

gwelir: Ni(s g)all angylion pur y nef
  (Ā'u doniau amal hwy)

(Adoration as a Privilege) / (Praise as a privilege)
The angels of pure ability cannot
Ever express thy honour fully;
  But O how base the praise and the esteem
  Which mortals like us sing!

Endless honour and praise are
Filling all the regions above:
  To the glorious inumberable host,
  O how disimilar are we!

A privilege to transgressors of a base kind
Is to be be able to praise the living God:
  A wonder that our generous Lord
  Accepts our base adoration!

Whenever the tenderness of One in Three
Delightfully smiles upon us,
  We may get on his word some new taste,
  And praise him as a gracious Lord!
::
A privilege to ... Is to be able to :: We children of ... May
living :: only

tr. 2009 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~