1,2,3,(4). Nid oes funyd fach o'm bywyd Na fuost, Arglwydd, i mi'n dda, Ti'm gwaredaist fil o weithiau, Yma ac acw, rhag rhyw bla; Fe'm hachubwyd Am it' sefyll o fy mhlaid. Dengmil llawn o gyfyngderau, Ac o rwydau cyfrwys fwy, Fu gan Satan i fy maglu, A chwympaswn iddynt hwy; Ti dy hunan Oedd a'm daliodd i i'r lan. 'Rwyt ti'n drech na'm calon galed, 'Rwyt ti'n drech na'm pechod cas: Ti wnai 'm hanwyl chwant a minnau, Pryd y mynost, gwympo i maes; Croesa 'mhechod - Croesa'r peth wyf am fwynhau. Dy ddoethineb a dy allu Sydd yn abl i dori lawr, D'rysu, difa, a newynu, 'R penaf un o'm beiau mawr: Gwna i mi ganu; Concrwyd gelyn mwy na'r byd. - - - - - Nid oes munud bach o'm bywyd, Na fuost, Arglwydd, i mi'n dda, Ti'm gwaredaist fil o weithiau, Yma ac accw, rhag rhyw bla; Fe'm hachubwyd, &c. Am it' sefyll o fy mhlaid. Deng mil lawn o gyfyngderau, Ac o rwydau cyfrwys fwy, Fu gan satan i fy maglu, Cwymp'swn inneu iddynt hwy; Ti dy hunan, &c. Oedd a'm daliodd i i'r lan. Mi dueddais gant o weithiau O ochr fy ngelynion cas, Gwell bedd gennyf golli'r frwydr, Nag oedd gennyf gario'r maes; Ti'm hachubaist, &c. Pan o'wn inneu'n myn'd i'r tān. 'Rwyt ti'n drech nā'm calon galed, 'Rwyt ti'n drech nā'm pechod cas: Ti wnai'm hanwyl chwant a minneu, Pryd y mynnost, gwympo i maes; Croesa mhechod, &c. Croesa'r peth wyf am fwynhau. Dy ddoethineb, a dy allu, Sydd yn abl torri lawr, D'rysu, mwrddro, a newynu 'R pennaf un o'm meiau mawr; Gwna i mi ganu, &c. Congc'rwyd gelyn fwy nā'r byd.William Williams 1717-91
Tonau [878747]: |
There is no small minute of my life Thou wast not, Lord, good to me, Thou didst deliver me a thousand times, Here and there, from some plague; I was saved For thee to stand on my side. Ten thousand full of straits, And of more crafty net, Were by Satan to ensnares me, And I would fall into them; Thou thyself It was who held me up. Thou art mightier than my hard heart, Thou art mightier than my detestable sin: Thou wilt make my beloved lust and me, When thou wilt, fall out; Cross my sin - Cross the thing I am wanting to enjoy. Thy wisdom and thy power Are able to break down, Confound, destroy and starve, The chief of my great faults: Make me sing; An enemy greater than the world was conquered. - - - - - There is no small minute of my life Thou wast not, Lord, good to me, Thou didst deliver me a thousand times, Here and there, from some plague; I was saved, &c. For thee to stand on my side. Ten thousand full of straits, And of more crafty net, Were by Satan to ensnares me, And I would fall into them; Thou thyself, &c. It was who held me up. I was inclined a hundred times From the side of my detestable enemies, Better I have a grave than lose the battle, It was not within me to carry the field; Thou didst save me, &c. When I was going into the fire. Thou art mightier than my hard heart, Thou art mightier than my detestable sin: Thou wilt make my beloved lust and me, When thou wilt, fall out; Cross my sin, &c. Cross the thing I am wanting to enjoy. Thy wisdom and thy power Are able to break down, Confound, slay and starve, The chief of my great faults: Make me sing, &c. An enemy greater than the world was conquered.tr. 2015 Richard B Gillion |
|