Nid ofna'i'r byd nid ofna'i'r bedd

(Buddugoliaeth ffydd)
Nid ofna'i'r byd,
    nid ofna'i'r bedd,
  Ond profi'th hedd a'th rym;
Fy ofnau'n llwyr,
    ond gwel'd dy wedd,
  A ddont i lawr yn ddim.

O anghrediniaeth mawr dy rym,
  Ti roddaist i mi glwy':
Ond yn dy wyneb credu wnaf
  Fod doniau'r nef yn fwy.

Fe'm purir gan fy nghystudd trwm
  Fel aur mewn pair o dān;
Ac allan dof, pan ddel y dydd,
  Yn bur a pherffaith lān.
William Williams 1717-91

[MC 8686]

gwelir: O anghrediniaeth mawr ei rym

(The victory of faith)
I shall not fear the world,
    nor shall I fear the grave,
  But experience thy peace and thy power;
My fears entirely,
    except to see thy countenance,
  Shall come down to nothing.

O unbelief with great power,
  Thou gavest to me a wound:
But in thy face believe I shall
  That the gifts of heaven are greater.

I am to be purified by my heavy afflictions
  Like gold in a crucible of fire;
And out I shall come, when comes the day,
  Pure and perfectly holy.
tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~