Nid wy'n haeddu dim/un trugaredd

(Edifeirwch)
Nid wy'n haeddu dim trugaredd;
  Tro'is fy nghefn ar y nef,
A chofleidiais fy eilunod
  'N ol meddiannu Ei gariad Ef;
Gwerthais drysor mwy na'r ddaear
  Am bleserau munyd awr,
Ac 'r wy' 'mron a thori 'nghalon
  Am Ei heddwch Ef yn awr.

Eto unwaith mi dderchafaf 
  Un ochenaid tua'r nef,
Ac a wylaf ddagrau'n hidl
  Am ei bresennoldeb Ef:
Pwy a wyr na wrendy clustiau
  'R Hwn a greodd ddae'r a nen,
Ac na ddaw fy nymuniadau,
  Trist hiraethlawn, oll i ben.
William Williams 1717-91

Tonau [8787D]:
Diniweidrwydd (alaw Gymreig)
  Russell Gardens (E D LLoyd)

gwelir: Mae addewid nef o'm hochr

(Repentance)
I do not deserve any mercy;
  I turned my back on heaven,
And embraced my idols
  After possessing His love;
I sold a treasure greater than the earth
  For pleasures of a moment,
And I am almost breaking my heart
  For His peace now.

Once again I shall raise
  One groan towards heaven,
And I shall weep streaming tears
  For His presence:
Who knows whether the ears of Him
  Who created earth and heaven will hear,
And whether my sad, longing
  Requests shall be met?
tr. 2018 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~