Nid yw'r holl gre'digaeth helaeth, Daear, awyr, dŵr, a môr, Gyda'u llwythau maith diderfyn, 'Nghyda'u hannherfynol stôr, Ond dy weision gyda'u gilydd - Fel y mynost, felly gwnân', A hwy dro'nt er pob gwrth'nebrwydd, I fyn'd a'th enw yn y blaen. Ti wnai'r hyn fo'n wenwyn perffaith, Rai amserau i wella clwy'; Ti wnai'r feddyginiaeth oreu, Rai amserau i glwyfo mwy: Ti wnai haf, a pharch a gwynfyd, Losgi'r llysiau gan y gwres; Ti wnai rew a chystudd diried, Fyn'd a mi i'r nef yn nês. Tân dry'n dŵr, a dŵr dry'n wenfflam, Os d'ewyllys iddo bair; Gwnai i'r morfil mawr esgyrnog, I lesmeirio wrth dy air: Beth yw mhechod it' ond gwyfyn, Er ei rûad, er ei rym? Gwna fe gwymp ond ar dy amnaid - Ni raid iti ddywedyd dim.William Williams 1717-91 [Mesur: 8787D] |
Nought is the whole extesive creation, Earth, air, water, and sea, With their vast, endless tribes, Together with their infinite store, But thy servants altogether - AS thou willest, thus they do, And they will turn, despite all opposition, To take thy name forward. Thou woudst make what would be perfect poison, Sometimes to heal a wound; Thou woudst make the best medicine, Sometimes to injure more: Thou woudst make summer, and honour and blessedness, Burn the vegetation by the heat; Thou woudst make ice and the affliction of misfortune, Take me nearer to heaven. Fire turns to water, and water turns to conflagration, If thy will should cause it to; Thou wouldst make the great bony whale, To faint by thy word: What is my sin to thee but a worm, Despite its roar, despite its force? Make it fall but on thy gesture - There is no need for thee to say anything.tr. 2015 Richard B Gillion |
|